91ȱ

Polisi economaidd, cymdeithasol a hiliol y NatsïaidAmcanion a pholisïau’r Natsïaid i bobl ifanc

Roedd Hitler wedi amlinellu ei syniadau yn Mein Kampf. O 1933 ymlaen, roedd gweithredu'r syniadau hyn yn effeithio ar sawl agwedd ar fywyd yr Almaen. Sut gwnaeth polisi economaidd, cymdeithasol a hiliol y Natsïaid effeithio ar fywyd yn yr Almaen?

Part of HanesYr Almaen mewn cyfnod o newid, 1919-1939

Amcanion a pholisïau’r Natsïaid ar gyfer pobl ifanc

Llun o Adolf Hitler ac arweinydd y Natsïaid Ifanc Baldur von Schirach newydd gyrraedd y stadiwm ar gyfer rali Ieuenctid Hitler.

Roedd pobl ifanc yn bwysig iawn i Hitler a’r Natsïaid. Soniai Hitler am ei yn para am fil o flynyddoedd, ac i gyflawni hyn byddai’n rhaid iddo sicrhau bod plant yr Almaen wedi’u yn drwyadl yn syniadaeth y Natsïaid.

I’r perwyl hwn, o 10 mlwydd oed ymlaen anogid bechgyn a merched i ymuno â mudiad ieuenctid y Natsïaid, Ieuenctid Hitler (Urdd Morynion yr Almaen oedd enw’r gangen i ferched). Yn 1936, gwnaethpwyd aelodaeth yn orfodol i bawb unwaith roedden nhw’n 10 oed. Erbyn 1939, roedd 90 y cant o fechgyn 14 mlwydd oed a throsodd yr Almaen yn aelodau.

Gweithgareddau ac amcanion Ieuenctid Hitler ac Urdd Morynion yr Almaen.
Ieuenctid HitlerUrdd Morynion yr Almaen
Ei nod oedd paratoi bechgyn yr Almaen i fod yn filwyr yn y dyfodolEi nod oedd paratoi merched yr Almaen i fod yn famau yn y dyfodol
Gwisgai’r bechgyn wisgoedd o steil milwrolGwisgai’r merched wisg o sgert las, blows wen ac esgidiau martsio trwm
Roedd y gweithgareddau’n canolbwyntio ar ymarfer corff ac ymarfer tanio reiffl, yn ogystal â chyflyru gwleidyddolGwnâi’r merched ymarfer corff, ond roedd y gweithgareddau’n canolbwyntio’n bennaf ar ddatblygu sgiliau domestig fel gwnïo a choginio
Ieuenctid HitlerEi nod oedd paratoi bechgyn yr Almaen i fod yn filwyr yn y dyfodol
Urdd Morynion yr AlmaenEi nod oedd paratoi merched yr Almaen i fod yn famau yn y dyfodol
Ieuenctid HitlerGwisgai’r bechgyn wisgoedd o steil milwrol
Urdd Morynion yr AlmaenGwisgai’r merched wisg o sgert las, blows wen ac esgidiau martsio trwm
Ieuenctid HitlerRoedd y gweithgareddau’n canolbwyntio ar ymarfer corff ac ymarfer tanio reiffl, yn ogystal â chyflyru gwleidyddol
Urdd Morynion yr AlmaenGwnâi’r merched ymarfer corff, ond roedd y gweithgareddau’n canolbwyntio’n bennaf ar ddatblygu sgiliau domestig fel gwnïo a choginio

Y Natsïaid yn rheoli pobl ifanc drwy addysg

Yn ogystal â dylanwadu ar gredoau Almaenwyr ifanc drwy fudiad Ieuenctid Hitler, byddai’r ysgolion yn trwytho pobl ifanc yn syniadau gwleidyddol a hiliol Natsïaeth.

Roedd rhaid i bob athro ac athrawes ymuno â’r Gymdeithas Athrawon Natsïaidd, a fyddai’n archwilio’u hanes i sicrhau addasrwydd gwleidyddol a hiliol. Dechreuwyd pob gwers gyda Heil Hitler!

Newidiwyd y cwricwlwm i adlewyrchu syniadaeth a blaenoriaethau’r Natsïaid.

  • Hanes - roedd y gwersi’n cynnwys cwrs ar esgyniad y Blaid Natsïaidd.
  • Bioleg - defnyddid gwersi i ddysgu damcaniaethau esblygiad hiliol y Natsïaid mewn .
  • Astudiaeth a syniadaeth hil - daeth hyn yn bwnc newydd, yn ymdrin â syniadau a gwrth-Semitiaeth.
  • Addysg Gorfforol - câi plant ysgol yr Almaen bum gwers awr o chwaraeon bob wythnos.
  • Daearyddiaeth - defnyddiwyd i ddangos cymdogion oedd yn israddol o ran hil, a lle roedd adnoddau yn angenrheidiol ar gyfer gofod byw yr Almaen, Lebensraum.

Eto, y nod oedd cyflyru plant fel y byddent yn tyfu gan dderbyn syniadau Natsïaidd yn ddi-gwestiwn.