|
|
91热爆 91热爆page Hafan Cymru | ||
Ymateb Cymorth Wedi mwynhau'r ddalen hon? Anfonwch hyn at gyfaill! 听 |
StraeonSteddfod Dylwyth Teg11 Awst 2007Stori Y Steddfod Fach Binc- tipyn o ddwli wedi'r Wyddgrug "Mae hyn yn wyrth - y tywydd braf yma yr wythnos yma yng nghanol haf fel hyn." "Mae hi'n union fel stori dylwyth teg, w'chi." - Sgwrs rhwng dau Eisteddfotwr ar faes Yr Wyddgrug, ddydd Iau diwethaf. Stori'r Steddfod Fach BincUn tro amser maith, maith, yn 么l, tua deunaw mis yn 么l, yr oedd Y Steddfod Fach Binc yn drist a heb unman i fynd. "Does neb fy eisiau i a does gen i ddim cartref," meddai hi wrth eistedd yn ei dagrau ar ochr y ffordd y tu allan i blasty crand y Faenol lle'r oedd hi wedi bod yn mwynhau ei hun mewn parti mawr. Ond er yr holl holi a chwilio doedd yna neb eisiau gwahodd Y Steddfod Fach Binc i barti mawr arall. Ac yna, daeth Merswy, Yr Hen Flaidd Mawr Drwg, dros y clawdd yn w锚n i gyd a dweud; "Tyrd i fy Ninas i Steddfod Fach Binc ac fe gei di y parti mwyaf a gorau a welais ti erioed achos mae gen i ddigon o arian i dalu am bob math o bethau yn ein Dinas Fawr Ni. Marchog hawddgarOnd yna, a'r Eisteddfod Fach Binc ar fin gafael yn llaw Merswy y Blaidd Mawr Drwg efo lot o arian, a mynd gydag ef i'w Ddinas Fawr Ddrwg, pwy ddaeth i fyny'r ffordd o nunlle ar gefn asyn ond Syr Fflint, marchog hawddgar ond tlodaidd a chanddo galon fawr. A chan chwifio ei gleddyf yn wyneb Merswy y Blaidd Mawr Drwg dyma Sir Fflint yn dweud yn Saesneg, "Er nad ydi o yn lle crand ac er nad oes yma lawer yn siarad Cymraeg pl卯s tyrd i fy nghartref i er mwyn i Ni drefnu y parti gorau a welais ti erioed iti." A dyma'r Steddfod Fach Binc yn cychwyn ar y daith hir a throfaog i Cyffiniau, lle'r oedd cartref Sir Fflint. G诺r doethOnd pan glywodd ffrindiau Sir Fflint fod Y Steddfod Fach Binc yn dod doedden nhw ddim yn gwybod beth i'w wneud gan y byddai angen arian mawr, mawr, i dalu am barti fel hwn. Felly dyma nhw'n troi at 诺r doeth o'r enw Aled yr Hynafgwr a oedd wedi trefnu parti tebyg o'r blaen yn Cyffiniau flynyddoedd maith yn 么l. Ac fe geisiodd Aled help marsiandwr craff o'r enw Selwyn y Siswrn a aeth ati yn syth i wneud pob math o bethau i gael arian a'u rhoi nhw i gyd, wedyn, i Hywel y Trefnydd gan ddweud wrtho fo: "Yr ydym ni wedi achub Y Steddfod Fach Binc oddi wrth Merswy y Blaidd Mawr Drwg - nawr rhaid i ti drefnu parti na welwyd ei debyg o'r blaen yn Cyffiniau a Chymru Fach." Glawio a glawioOnd, a Hywel bron 芒 chael popeth ynghyd fe ddaeth hi yn storm enbyd nas gwelwyd ei thebyg ers saith, saith, o'r pedwar amser yng ngwlad Y Steddfod Fach Binc ac yr oedd Hywel y Trefnydd yn gorwedd yn ei wely yn ofni beth a ddigwyddai wrth i'r gwynt chwythu ac i'r glaw lawio yn ddibaid am oriau a diwrnodau ac wythnosau nes bod cae'r parti fel pwll hwyaid a mwd yn gorwedd ar fwd a'r Steddfod Fach Binc yn ei dagrau yn wylo eto. Nid oedd dim i'w wneud ond galw ar Elfed y Dewin Doeth o'r Brifddinas Dlos. Ac meddai Elfed y Dewin Doeth wrth Hywel y Trefnydd Partis a Selwyn y Marsiandwr ac Aled y G诺r Doeth a holl bobol y wlad; "Dydi tywydd fel hyn yn da i ddim i ni." 'Bydd popeth yn iawn . . .'A dyma fo'n chwifio ei hudlath ac ysgyrnygu ar y cymylau a bygwth y glaw a thaflu mynyddoedd o gerrig dros y moroedd mwd gan ddweud; "Paid a wylo Steddfod Fach Binc. Bydd popeth yn iawn" Ac wythnos cyn parti mawr Y Steddfod Fach Binc dyma'r glaw yn peidio, a'r mwd yn sychu wrth i'r haul dywynnu dros erwau Cyffiniau lle cafwyd y parti gorau a gafodd Y Steddfod Fach Binc ers blynyddoedd lawer. Ac yn awr bod Y Steddfod Fach Binc yn hapus mae Aled yr Hynafgwr wedi gofyn i Huw ap Eic drefnu parti arall iddi hi y flwyddyn nesaf yn Ninas Fawr Caerfryngis lle mae llawer yn siarad Cymraeg. Ac mi fydd Y Steddfod Fach Binc yn byw yn hapus byth eto. Categori
|
About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy 听 |