|
|
91热爆 91热爆page Hafan Cymru | ||
Ymateb Cymorth Wedi mwynhau'r ddalen hon? Anfonwch hyn at gyfaill! 听 |
StraeonGwyddgrug Gwilym - dydd Mercher8 Awst 2007Sylwadau Gwilym Owen o'r maes - ar y Post Cyntaf bob bore Lansiad X 4Mae'n ymddangos fod pob sefydliad gwerth ei halen yn cyhoeddi taflenni digwyddiadau ar gyfer Ein Jyncet Fawr Genedlaethol. Ac un o'r rhai mwya lliwgar ydi taflen Prifysgol Cymru Bangor - lliwgar a gwreiddiol a deud y gwir. Wyddech chi ei bod hi'n bosib lansio rhywbeth nifer o weithiau mewn wythnos? Wel mae hi ym Mhrifysgol Bangor. Maen nhw yn lansio rhywbeth a elwir yn Ganolfan Gymraeg i oedolion Gogledd Cymru bedair gwaith lle clywch chi am waith ymchwil diweddar yng Ngwlad y Basg. A dyma chi rywbeth diddorol iawn arall. Mae'r Ysgol Gymraeg yn lansio tri llyfr newydd - a dau ohonyn nhw yn Saesneg cofiwch! Gwreiddiol te! Dwy am unA rwan syniad gwreiddiol a gwastraffus arall. Mi fydd yna ddwy ddarlith ar yr un pwnc ar y maes yma heddiw. Thomas Pennant ydi gwrthrych y ddwy, y naill ym Mhabell y Cymdeithasau am hanner dydd a'r llall yn y Stiwdio am dri o'r gloch. Hwyrach y dylai Cymdeithas Carnhuanawc a Chymdeithas Bob Owen gyd-drafod i osgoi dyblygu y dyfodol. Ond falle bod Thomas Pennant yn haeddu dwy awr o bregethu amdano. Lled llwybrauMae'n ymddangos nad ydi'r dechnoleg fodern a elwir yn wasanaeth band llydan yn gweithio'n effeithiol ar y maes yma yn 么l ffotograffwyr y wasg. A falle bod hynny'n newyddion da o lawenydd mawr. Sefydliad sy'n cadw at y llwybr cul ydi'r Steddfod Genedlaethol a dydy hynny ddim yn syndod. Canu rhwng y meiniAc o gyfeirio at y llwybr cul mae'n ddiddorol sylwi y bydd Cwmni Teledu Avanti yn recordio rhifyn o'r rhaglen deledu Dechrau Canu Dechrau Canmol yng nghylch yr Orsedd brynhawn Iau. Y lle olaf fasach chi'n feddwl i gynnal cyfarfod crefyddol - ond dyna fo - mae Dechrau Canu Dechrau Canmol ar ei newidd wedd yn torri tir newydd i bob cyfeiriad ac yn llwyddo'n ddigamsyniol, yn 么l bosus ein sianel deledu hoff. Ond go brin y bydd criw Caffi Basra, sioe glybiau newydd Theatr Bara Caws yno'n canu. Maen nhw yn rhoi pobiad caled i Martyn Geraint un o'r cyflwynwyr a sioe yr Happy Clappy fel maen nhw'n cyfeirio ati. A oes hedd lu?Mae yna ambell sinig eisteddfodol yn holi ar y maes yma tybed a oes yna beryg fod y Brifwyl yn araf lithro i ddwylo'r Heddlu Ddoe mi roedd gan Heddlu Gogledd Cymru sesiwn ym Mhabell y Cymdeithasau a'r Prif Gwnstabl yn cadeirio trafodaeth yn dilyn araith gan Lywydd y Cynulliad. Heddiw os gwelwch chi'n dda, mi fydd y Dirprwy Brif Gopyn yn cadeirio cyfarfod yn y Babell L锚n i gyflwyno cyfrol o gerddi a gomisiynwyd gan heddlu Gogledd Cymru o'r enw Cerddi Cyfiawnder. Cwestiwn rygbiA chwestiwn digon pigog arall glywais i ddoe oedd hwn. Onid rheitiach gwaith fyddai iddo fod yn helpu Gareth Jenkins druan yn hytrach na bod yn was bach i Selwyn Iolen a Gorsedd y Beirdd. Categori
|
About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy 听 |