91热爆

Explore the 91热爆
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

91热爆 VOCAB : OFF / I FFWRDD

Turn on / Troi ymlaen

Language Help / Cymorth Iaith


91热爆 91热爆page
Hafan Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon

Meddwl mwya'r Steddfod

4 Awst 2007

Guto Roberts - a'i ymennydd

Pendigeidfr锚n - dyna ichi fr锚n!

Ar faes sydd i fod yn lluosog o feddyliau mwyaf y genedl nid oes amheuaeth o gwbl ble mae'r ymennydd mwyaf yn Yr Wyddgrug.

Yn addas iawn, yn y babell Gwyddoniaeth a Thechnoleg sydd dan ofal Guto Roberts, cyn ddarlithydd o Brifysgol Morgannwg.

Dywedodd Guto, sy'n ffisegydd wrth ei alwedigaeth, mai dyma'r chweched tro iddo gynllunio'r arddangosfa hon.

"Ac mi fyddai'n ceisio meddwl am rywbeth sy'n mynd i dynnu sylw a dal dychymyg bob blwyddyn," meddai.

Guto Roberts

Yr ymennydd mwyaf!

Ac eleni - ymennydd enfawr sydd fil gwaith yn fwy nag ymennydd go iawn yw'r canolbwynt hwnnw - ac wedi ei adeiladu gan yr un cwmni o Gaerdydd sy'n gyfrifol am rai o greadigaethau Dr Who.

Pan fydd y model - a enwyd yn Pendigeidfr锚n gan un o wrandawyr rhaglen Hywel a Niaar 91热爆 Radio Cymru - yn symud mae rhannau arbennig yn goleuo i ddangos pan ran sy'n gyfrifol am beth. Datrys problem yn y blaen, y golwg yn y cefn er enghraifft.

Ond pwysleisiodd Guto, sy'n dod o Edern ym Mhen Ll欧n yn wreiddiol, mai dim ond rhan o arddangosfa llawer iawn mwy am wyddoniaeth y meddwl yw Pendigeidfr锚n.

Ychwanegodd mai dyma'r tro cyntaf i'r Eisteddfod gydweithio gydag Adran Seicoleg Prifysgol Bangor ar ddigwyddiad o'r fath.

Meddai Guto, sy'n Ymgynghorydd Gwyddoniaeth yr Eisteddfod:

"Mae'r arddangosfa wedi ei threfnu gyda. chymorth y Wellcome Trust a Phrifysgol Bangor ac rwy'n gobeithio y bydd y model yma yn tynnu sylw acyn arwain pobl i weddill yr arddangosfa," meddai.

Ychwanegodd y bydd cyfle hefyd i blant ac oedolion greu modelau o niwronau, datrys dirgelion, profi eu cof; trwsio ymennydd sydd wedi ei dorri, tasgau i gasglu ffeithiau - oll tra'n dysgu am wyddoniaeth y meddwl.

Ond heb amheuaeth - Pendigeidfr锚n fydd yn goleuo'r rhan hwnnw o'r pen sy'n ymwneud 芒'r dychymyg!



About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy