|
|
91热爆 91热爆page Hafan Cymru | ||
Ymateb Cymorth Wedi mwynhau'r ddalen hon? Anfonwch hyn at gyfaill! 听 |
StraeonPriodas yr Eisteddfod11 Awst 2007Parti priodas ar faes y Brifwyl. Mi gafwyd sawl cyntaf ar lwyfan yr eisteddfod eleni ond bydd Eisteddfod Sir Fflint a'r Cyffiniau yn y llyfrau hanes am gyntaf arall - y wledd briodas gyntaf ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol. Tra roedd cyngerdd Dafydd Iwan yn ei anterth yn y pafiliwn pinc ar nos Lun heulog cynta'r Eisteddfod, roedd y siamp锚n yn llifo yn hwyr i'r nos ym mhabell Bant a la Cart ar y maes lle roedd Alwyn a Gwenda Morris yn dathlu eu priodas gyda 150 o westeion Wedi'r canapees, stiw cig eidion oedd ar y fwydlen: "Ro'n i'n gwybod y bydden nhw'n brysur yn ystod yr wythnos felly do'n i ddim isio iddyn nhw fynd i ormod o drafferth," meddai Gwenda "er y bydden nhw wedi gwneud unrhywbeth inni - roedden nhw'n wych," ychwanegodd. Rhesymau ymarferol, yn bennaf, oedd y tu 么l i'r dewis o leoliad. Ar 么l priodi mewn swyddfa gofrestru yng Nghaernarfon yr wythnos flaenorol gyda chriw bach o deulu, roedd yn rhaid trefnu'r wledd briodas o amgylch amserlen eisteddfodol brysur Gwenda, sy'n aelod o barti Chwiban, Eifionydd. Roedd yn cystadlu mewn pedair cystadleuaeth a chafodd lwyddiant ym mhob un: cyntaf ar y triawd cerdd dant ddydd Sul, ail ar y parti gwerin ddydd Mercher a'r ddeuawd gerdd dant ddydd Iau ac i goroni wythnos arbennig, y wobr gyntaf eto ar y parti cerdd dant ar nos Wener. Wythnos i ddathlu ar bob tu felly, ac un o'r campau mwyaf oedd bod y cwpl wedi llwyddo i gadw'r cyfan yn dawel tan y funud ola'. Ar 么l cael y syniad o gyfuno eu dathliadau priodas efo'u gweithgareddau eisteddfodol fis Mai, doedd y rhan fwyaf o'r gwesteion yn gwybod dim am y briodas na'r dathliadau tan yr wythnos cyn yr Eisteddfod, pan aeth Gwenda i bractis parti Chwiban gyda'r gwahoddiadau ar y nos Iau, wedi priodi ar y dydd Mercher. Gwaith Alwyn yn ystod yr wythnos oedd gofalu am eu dau blentyn yn y garaf谩n: un yn dair a'r llall yn flwydd a hanner ac yn mwynhau ei heisteddfod gyntaf. Gydag aelodau parti Chwiban yn darparu'r adloniant cerddorol answyddogol, aeth y dathliadau ymlaen tan un y bore, pan oedd rhaid rhoi pen ar y mwdwl ar y parti oherwydd rheolau'r Eisteddfod: "Roedden ni wedi cadw i griw bach ac mi fihafiodd pawb yn dda iawn chware teg," meddai Gwenda, "neu ni fyddai'r cwpl cyntaf ac olaf i gael caniat芒d y 'Steddfod i gynnal ein parti priodas ar y maes!" A beth am fis m锚l? "Mi fydd yn rhaid i wythnos yr Eisteddfod wneud fel mis m锚l hefyd am y tro, mae'n debyg!" meddai Alwyn. Hwn oedd y tro cyntaf i'r Eisteddfod gael cais o'r fath ond ar 么l gweledigaeth Alwyn a Gwenda, mae'n annhebyg o fod y tro olaf. A thybed pwy fydd y cyntaf i wneud ymholiadau am drwydded i briodi ar y maes? Gwyliwch y gofod hwn! Categori
|
About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy 听 |