91热爆

Explore the 91热爆
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

91热爆 VOCAB : OFF / I FFWRDD

Turn on / Troi ymlaen

Language Help / Cymorth Iaith


91热爆 91热爆page
Hafan Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon

Gwyddgrug Gwilym - bore Gwener

10 Awst 2007

Gwilym Owen

Sylwadau olaf Gwilym Owen o'r maes yr wythnos hon - ar Y Post Cyntaf

Llongyfarchiadau i'r Cymro

Dechrau ar nodyn cadarnhaol y bore 'ma. Nid cyn pryd fe'ch clywa i chi yn deud. Beth bynnag am hynny mae'n deg fy mod i'n llongyfarch criw Y Cymro am gyhoeddi rhifyn arbennig rhad ac am ddim fore Mercher.

Rhifyn lliwgar proffesiynol llawn lluniau o ddyddiau cyntaf y Brifwyl. Ac mae un llun wedi 'nghosi - hwnnw sydd ar gongl uchaf y ddalen flaen.

Llun o'r cyn archdderwydd yn sibrwd yng nghlust yr Arch presennol ac fel petai'n deud, "Cofia boi bach, mi fyddi ditha ar y d么l yr wsnos nesa."

Cymry Tramor

Clywed hefyd fod rhai o'r Cymry tramor yn anfodlon efo'r seremoni groeso newydd bnawn Mercher. Ond, onid cau drws y stabal wedi i'r ceffyl ddianc ydi cecru rwan? Rhy hwyr bois bach rhy hwyr.

Am y gorau

Clywed wedyn fod Trefnydd y Steddfod Hywel Wyn Edwards wedi trechu Eleri Sion mewn cystadleuaeth goginio ar y maes.

Dipyn o syndod efallai - ond nid cymaint a phetai Eleri Sion wedi trechu'r Bonwr Hywel Wyn mewn cystadleuaeth trefnu steddfod. Byddai hynny'n destun pryder.

Dwy siom

Roedd rhai o gyn-fyfyrwyr Prifsygol Bangor yn dra siomedig mai diodydd meddal yn hytrach na diodydd meddwol oedd ar gael yn yr aduniad ar y maes yn ystod yr wythnos - a siomedig hefyd oedd rhai o aelodau Cor y Steddfod na chafodd eu cyngerdd mawr nhw nos Fawrth sylw o gwbl ar y cyfyngau torfol. Tybed oes yna reswm am hynny?

Dillad didrefn

Mae'n ymddangos ei bod hi'n dipyn o halibalw yn ystafelloedd gwisgo Gorsedd y Beirdd a rhai mwy sidet na'i gilydd yn awgerymu fod angen disgyblaeth gadarnhaol a gwell trefn yn hytrach na'r gwthio a'r ymgiprys wrth wisgo'r cobenni.

Gwasgu'r Wasg

Ac fel mae'r Brifwyl yn tynnu ei thraed ati wele gyhoeddiad gwerth sylwi arno gan Rhodri Glyn Thomas - Y Gweinidog Treftadaeth - o'i swyddfa ar y Maes Carafannau.

'Rydw i wedi gofyn i Fwrdd yr Iaith Gymraeg gynnal arolwg o'r Wasg Brintiedig Gymraeg,' medda fo neu eiriau tebyg 'a honno i'w chyhoeddi cyn y Dolig'.

Oni ofynnwyd am yr un peth mewn cyfarfod rhwng newyddiadurwyr a'r Bwrdd Iaith flynyddoedd yn 么l pan oedd yr Herald ar fin diflannu? Ond ni fu ymateb bryd hynny. Mi drychwn ni ymlaen rwan at y Dolig

Fawr o Lol

Ac aros yn y byd cyhoeddi, dyma restr o osodiadau a glywais i ar y maes ers bore Llun:
Dim hiwmor
Dim sgwp
Dim cynildeb,
Dim gwreiddioldeb
Dim dyfodol.
A chyfeirio yr oeddent at y cylchgrawn blynyddol hwnnw Dim Lol
A deud dim ydi'r calla i minna.
Dim ond deud fod pobl dda yr ardal hon wedi llwyddo i drefnu chwip o Brifwyl ar bob lefel.

A wyddoch chi be mae Nedwyn John y ci bach mwya gwrtheisteddfodol a grewyd - mae o hyd yn oed wedi dechrau dod allan o'i gragen erbyn y bore ma ac yn edrych fel ei fod o'n dechrau mwynhau ei hun. Do fe ddaeth tro ar fyd ym Mhrifwyl 2007

A jyst i brofi hynny, dyma finna'n cau pen y mwdwl heb gyfeirio at na Jyncet na Sanhedrin.

O'r Wyddgrug, da bo chi.



About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy