|
|
91热爆 91热爆page Hafan Cymru | ||
Ymateb Cymorth Wedi mwynhau'r ddalen hon? Anfonwch hyn at gyfaill! 听 |
StraeonGwyddgrug Gwilym - bore Iau9 Awst 2007Sylwadau Gwilym Owen o'r maes - ar y Post Cyntaf ar 91热爆 Radio Cymru bob bore Ergyd y geiriauDwn i ddim a ydw i wedi bod yn fwy anffodus nag arfer ond ddoe mi ddoes i ar draws criw o bobl ddig a blin. Fe ddaeth y cynta yn syth ata i Stafell y Wasg a rhoi swadan sydyn imi. "Mwynhau dy sylwadau boreol di," meddai - oni bai am y geiriau Sanhedrin a jyncet sy'n cael eu defnyddio'n rhy aml. Mewn twll heb dwllWedyn dod ar draws gwraig oedd yn berwi am fod Daniel Owen wedi cael mwy o sylw na Tony Bianchi ar y llwyfan bnawn echdoe. Dyn blin arall yn bytheirio wrth ddod i'm cyfarfod. "Roedd yna ddigon ar faes y Sioe", medda fo. "Pam na chawn ni'r un gwasanaeth yn y Steddfod?" At eu gwobr - salwPrifardd blin ofnadwy welais i wedyn - mor flin nes ei fod o'n dawnsio ar ei het fawr frown. Trefnwyr y Babell L锚n oedd dan ei ordd o am y dull o wobrwyo'r buddugwyr yn y Cysegr hwnnw. Ewch yn 么l at yr hen drefn medda fo - cyflwyno beirniadaethau a dyfynnu rhai o'r cynhyrchion yn hytrach na chael rhywun i batro'n arwynebol cyn cyflwyno amlenni i'r buddugwyr. Oedd roedd y Prifardd o Eifionydd ar gefn ei geffyl. Tro WigleyAc fe ddaeth y gwron Dafydd Wigley i'r maes hefyd a rhoi tro go dda ar y corddwr gwleidyddol a'i hergwd i'r consensws sy wedi amlygu ei hun yn yr 糯yl eleni. Fedar llywodraeth newydd Cymru ddim gwneud ei gwaith yn iawn heb gael mwy o arian o Lundain medda fo gan godi bwganod go fawr dybiwn i. Ond falle mai dyma fydd cenhadaeth fawr y gwleidydd praff yn y dyfodol agos pan fydd, yn 么l sibrydion eisteddfodol, yn ei gael ei hun ar feinciau coch T欧'r Arglwyddi. Carchar niBle arall, ond ar faes y Steddfod fuasech chi'n gweld yr heddlu a charcharorion yn cael eu lle yn yr haul yn gyfochrog. Yr Heddlu yn heipio eu hunain a'u gweithgareddau a'r carcharorion o ogledd Cymru yn cael pwysigion go iawn yn eiriol ar eu rhan. Tewch meddai'r Arglwydd Elis Thomas a'r Barnwr Syr Roderick Evans wrth eisteddfodwyr dwy fil a saith, mae'n hen bryd inni gael carchar ar gyfer ein hogia a'n genod ni yn ein bro ein hunain. Amen meddai pawb a fu'n gwrando - ond nid yn ymyl t欧 ni gobeithio. Cyngor ddoeA r诺an dyma fi'n mynd i bechu drwy s么n am y Sanhedrin eto - y corff cadarn sydd drwy gyfrwng cyfansoddiad newydd i gymryd pob awdurdod bron o ddwylo'r corff a adnabyddid gynt fel Cyngor yr Eisteddfod. Ond chwarae teg iddyn nhw maen nhw'n dal i gynnig ystafell foethus lle gall aelodau'r corff a sbaddwyd eistedd yn gysurus i hel atgofion am y grym a gollwyd mor ddisymwth. Ie, pobl y galon galed a'r gyllell finiog - dyna'r Sanhedrin newydd sy'n rhedeg y jyncet bellach! Categori
|
About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy 听 |