91热爆

Explore the 91热爆
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

91热爆 VOCAB : OFF / I FFWRDD

Turn on / Troi ymlaen

Language Help / Cymorth Iaith


91热爆 91热爆page
Hafan Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon

Mefus moes mwy, a mwy a mwy a . . .

11 Awst 2007

Helen Hughes - merch y mefus

Trafod mefus wrth y miloedd - bob dydd

Ymhlith y stondinwyr cynharaf ar faes yr Eisteddfod bob bore yr wythnos yw Helen Hughes ar un o'r stondinau gwerthu mefus.

A phob bore wyneba'r dasg a fyddai wedi torri calon sawl un, dim ond meddwl amdani, o dorri'r dail oddi ar gynhaeaf diddiwedd o fefus gyfer y cwsmeriaid.

"Miloedd!" meddai pan ofynnwyd iddi sawl mefusen sy'n mynd drwy'i dwylo mewn diwrnod. "Fydda i ddim yn cyfrif!"

Bu gan 'Mefus a Hufen' neu 'Strawberry Fayre' ddau stondin ar y maes gydol yr wythnos ac yn 么l Helen bu'r tywydd yn Yr Wyddgrug yn ddelfrydol ar gyfer y math hwn o gynnyrch.

Mor wahanol i'r Sioe Amaethyddol yn Llanelwedd lle'r oedd bythefnos yn 么l. Nid y lle gorau yng Nghymru eleni i werthu powlenni o fefus.

Dywedodd y ferch sy' crwydro o sioe i sioe ei bod yn gobeithio am Wyddgrug arall yr wythnos nesaf pan fydd hi 芒'i dau frawd sy'n rhedeg y busnes yn symud ymlaen i sioeau M么n a Phenfro.

"Mae'r cyfan yn dibynnu ar y tywydd faint ydym ni'n i werthu," meddai Helen wrth i'r gyllell wibio a'r cwpanau o fefus lenwi o'i blaen.

Cychwyn yn gynnar

Dywedodd iddi fod yngl欧n 芒'r busnes ugain oed ers chwe blynedd ac iddo ddeillio yn wreiddiol o siop ffrwythau yr oedd ei thad yn ei chadw yng Nghaerfyrddin ar un adeg.

Ac mae diwrnod rhidyllydd mefus yn cychwyn yn gynnar.

"Yr ydym yn prynu'r mefus yn lleol," meddai, "ac roeddwn i'n eu derbyn y bore 'ma am bump o'r gloch."

"Mae'r tymor yn parhau rhwng Mai a Medi," ychwanegodd gan estyn am fefusen arall o bentwr sy'n ymddangos yn un diddiwedd a'r m么r coch o'i blaen yn chwyddo a chwyddo.

"Na," meddai, dydi hi ddim yn bwyta llawer o fefus ei hun erbyn hyn.

"Mi rydych chi'n tueddu i flino arnyn nhw o weld cymaint!"

Ond yn haul yr Wyddgrug yr oedd llif cyson o Eisteddfodwyr hirddydd haf yn anghydweld 芒 hi ac o'r farn bendant, mai mefus moes mwy!



About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy