91热爆

Explore the 91热爆
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

91热爆 VOCAB : OFF / I FFWRDD

Turn on / Troi ymlaen

Language Help / Cymorth Iaith


91热爆 91热爆page
Hafan Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon

Galwad i adfer hen werthoedd

5 Awst 2007

Elfed ap Nefydd Roberts

Beio troi oddi wrth Dduw am gyflwr y byd

Pobl yn troi eu cefnau ar werthoedd Cristnogol sy'n gyfrifol am "chwalfa foesol" cymdeithas gyfoes yn ol arweinydd Oedfa'r Eisteddfod yn Yr Wyddgrug heddiw.

A rhybuddiodd y Parchedig Elfed ap Nefydd Roberts mai dim ond trwy droi yn 么l at werthoedd Cristnogol traddodiadol y mae trawsnewid y byd.

Canllawiau moesol

Yn annerch ar y thema,'Ffynhonnau', dywedodd:

"Duw sydd yn rhoi i ni werthoedd ac egwyddorion a dangos i ni sut y dylem ni fyw,

"Mae'r Beibl drwyddo, yn y Deg Gorchymyn, yn y Bregeth ar y Mynydd, ac yn fwy na dim, ym mywyd ac esiampl yr Arglwydd Iesu Grist yn rhoi i ni ganllawiau moesol i'w dilyn a'u hefelychu. A does dim dwywaith mai un o ganlyniadau cefnu ar grefydd, ffydd ac addoli, yw'r chwalfa foesol sy'n tanseilio bywyd cymdeithas heddiw."

Diwylliant 'Fi fy hun'

Ymhlith canlyniadau troi cefn ar ddysgeidiaeth y Beibl cyfeiriodd at"dwf yr athroniaeth unigolyddol sy'n datgan nad oes yna bellach ddim safonau moesol cyffredin, gwrthrychol; mai be sy'n iawn ydi be sy'n iawn i mi; be sy'n dda ydi be sy'n dda i mi, a be sy'n ddrwg ydi be sy'n anghyfleus, neu'n annerbyniol i mi," meddai.

Da a drwg

"Ac y mae hyn wedi esgor ar genhedlaeth sydd ddim yn gwybod y gwahaniaeth rhwng da a drwg; sydd ddim yn gweld dim o'i le ar ladrata a lladd a thwyllo; sy'n credu bod purdeb yn chwerthinllyd o hen ffasiwn a dweud celwydd yn gwbl normal," meddai.

Dim ond Iesu

Ychwanegodd mai dim ond dysgeidiaeth foesol Iesu sy'n cynnig ffordd o afael y trais, y gormes a'r rhyfela sy'n bygwth dyfodol y byd.

"Iesu sy'n ein dysgu mai'r unig ffordd i oresgyn casineb yw trwy garu; mai'r unig ffordd i oresgyn trais a chreulondeb yw trwy ymarfer addfwynder a chymod; mai'r unig ffordd i oresgyn dirmyg a loes yw trwy faddau.," meddai.

"Mae hon yn ddysgeidiaeth sy'n datgan mai cariad yw Duw yn ei hanfod ac mai trwy ymarfer ei gariad ef yn ein perthynas 芒'n cyd-ddynion y mae canfod llwybr o gors casineb, trais a rhyfel.

"Yn ffynnon ffydd y mae canfod y gwerthoedd yma a'n gwaith ni yw dal ati i dynnu d诺r ohoni i gawgiau blin heddiw," meddai.

Cliciwch yma i ddarllen yr anerchiad cyflawn.



About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy