|
|
91热爆 91热爆page Hafan Cymru | ||
Ymateb Cymorth Wedi mwynhau'r ddalen hon? Anfonwch hyn at gyfaill! 听 |
StraeonOwain Glynd诺r ar y maes7 Awst 2007Yn arfog - ond yn ceisio cadw o'r gwres! "Cyn belled eich bod yn cadw allan o'r haul ac yn osgoi symud o gwmpas yn ormodol," dyna ymateb Owain Glynd诺r i'r dillad trymion y mae'n eu gwisgo yn ystod ei ymweliad 芒 maes Eisteddfod yr Wyddgrug. Mae Owain yma bob dydd ac ar gael i siarad am fywyd milwyr Cymreig y canol oesoedd. Mike Roberts sy'n aelod o griw ail fyw digwyddiadau hanesyddol yw Owain a bu'n chwarae'r rhan hon a rhannau cymeriadau eraill yn amrywio o Henry Percy i Owain Lawgoch mewn pob math o safleoedd hanesyddol ers deng mlynedd bellach. Ond prysurodd i ddweud nad chwarae plant yw gweithgarwch y criw sy'n galw eu hunain yn Samhain - yr enw ar hen 诺yl y meirwon ymhlith y Celtiaid. Mae ei arfau a'i ddillad wedi eu hatgynhyrchu cyn gywired a phosibl ac yn gymysgedd o ddur a deunydd trwm. "Oherwydd ein bod yn gweithredu o fewn hyd braich i bobl mae'n hanfodol fod y manylion yn iawn. Mae'r gwaith cadwyn f锚l wedi ei wneud 芒 llaw ac mae rhannau eraill o'r wisg o ddur go iawn. "Ydi, mae'n drwm ac fe all fod yn boeth. Ond cyn belled eich bod yn aros yn y cysgod a pheidio a symud o gwmpas yn ormodol dydi o ddim rhy ddrwg," meddai Mike a fydd yn y wisg gydol yr wythnos. "Os ydi hi'n mynd yn boeth mae yna ffordd i symud eich corff o fewn y dillad i greu awyr oer ac mae hynny'n cael ei alw'n 'nofio o fewn yr arfwisg' acyn help mawr," meddai. Mae Mike wedi gosod ei wersyll gerllaw pabell NWN Media - cwmni argraffu a chyhoeddi papurau newydd dafliad carreg o faes yr Eisteddfod lle mae'n arlunydd graffeg wrth ei waith bob dydd. Mae ganddo bob math o offer a theclynau i'w dangos - o declyn y defnyddiwyd un pen iddo i bigo'ch dannedd a'r pen arall i lanhau eich clustiau. "Dim ond unwaith yr ydych chi'n gwneud camgymeriad rhwng y ddau ben," meddai! Er nad yw Mike yn rhugl yn y Gymraeg y mae ei wraig ac mae ei blant yn mynychu ysgol Gymraeg. "Y mae'r criw o 30 sy'n aelodau o Samhain yn unigryw yn y ffaith eu bod yn ail fyw y cyfnod hwn yn hanes Cymru gan berfformio y ddwy ochr i Glawdd Offa a bu gan Mike ac eraill ran yn rhaglen deledu Huw Edwards am Owain Glynd诺r. . "Yr ydym yn cael ymateb da iawn yn wyneb y ffaith nad yw pobl yn gwybod llawer am y cyfnod ac am arwyddoc芒d Glynd诺r. "Hebddo ef go brin y byddem ni yma yr wythnos yn cynnal g诺yl fel hon yn y Gymraeg," meddai. Categori
|
About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy 听 |