91热爆

Explore the 91热爆
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

91热爆 VOCAB : OFF / I FFWRDD

Turn on / Troi ymlaen

Language Help / Cymorth Iaith


91热爆 91热爆page
Hafan Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon

Creu straeon efo Caryl

8 Awst 2007

Caryl a chriw o sgrifenwyr

RAW a Caryl Lewis ar y maes yn creu straeon a chymeriadau

Mae sesiynau sgrifennu straeon ar gyfer plant yn profi'n boblogaidd iawn ar faes yr Eisteddfod.

Bob bore am hanner awr wedi deg ym Mhabell Coleg y Drindod, Caerfyrddin, mae'r awdur Caryl Lewis a chriw o ddarpar sgrifenwyr wedi bod wrthi'n creu cymeriadau a straeon newydd ar gyfer plant fel rhan o gynllun RAW adran addysg 91热爆 Cymru.

Darllen y straeon

Ddiwedd yr wythnos, pan fydd casgliad o straeon ar gael bydd Menna Elfyn yn dod draw i'w darllen a hefyd bydd y straeon yn cael eu dangos i gyhoeddwyr a fydd yn ystyried y posibilrwydd o gyhoeddi rhai ohonyn nhw.

Wrth baratoi ar gyfer y trydydd sesiwn y bore 'ma dywedodd Caryl Lewis ei bod yn hynod o hapus sut mae pethau'n mynd.

Ymhlith y cymeriadau sydd wedi eu creu y mae Weli werdd sydd yn drist am ei bod yn blaen mewn byd lle mae cymaint o 'welis' mor lliwgar," meddai.

Dywedodd fod mynychwyr y sesiynau yn amrywio yn fawr o ran oed gan gynnwys bechgyn ifainc, tad ifanc a dau neu dri o deidiau!

Ychwanegodd mai'r tro diwethaf i rai sgrifennu stori oedd yn yr ysgol.

"A dyna drist yw hynna," meddai.

Ychwanegodd fod ambell un a gymerodd ran ychydig yn nerfus wrth gychwyn ond bod brwdfrydedd mawr a llawer o hwyl wrth iddyn nhw fynd ati i drafod syniadau a sgrifennu.

A dywedodd Eleri Beynon, Swyddog Marchnata Coleg y Drindod, fod y cynllun hwn yn ffitio'n daclus a gweithgaredd Addysg Blynyddoedd Cynnar Coleg y Drindod.

"Hefyd, mae plant wedi bod yn gwneud lluniau i gydfynd 芒 rhai o'r straeon," meddai.

"Mae Caryl wedi bod yn arbennig yn ysbrydoli a rhoi tips arbennig," meddai.

Pwysig ymlacio

Ac meddai Cayl: "Yr hyn sy'n bwysig yw fod pobl yn cael hwyl yn sgrifennu ar gyfer plant," meddai.

Yn awdur profiadol ei hyn dywedodd mai ei chyngor hi i unrhyw un sy'n bwriadu rhoi cynnig arni yw "i ymlacio".

"Oherwydd does gan blant ddim rhagfarnau ac mae hynny yn rhoi rhyddid ichi wrth sgrifennu - ond y mae 'logic' hefyd yn bwysig i blant felly mae'n rhaid i bopeth wneud synnwyr iddyn.

"Fe allwch chi fod yn ffantasiol ond rhaid i'r peth wneud synnwyr yn eu meddwl nhw hefyd achos wnan nhw ddim derbyn syniadau sydd ond yn sili," meddai.

Yn dilyn sesiynau yr wythnos hon mae RAW yn trefnu hefyd gystadleuaeth ysgrifennu stori o gwmpas Macs a Lara a chymeriadau eraill o'r gofod. Y dyddiad cau 31 Ionawr 2008 gyda'r bwriad o gynnwys rhai o'r straeon mewn llyfr RAW.

  • Mae croeso i unrhyw un gymryd rhan yn y sesiynau am 10.30 bob bore.


  • About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy