|
|
91热爆 91热爆page Hafan Cymru | ||
Ymateb Cymorth Wedi mwynhau'r ddalen hon? Anfonwch hyn at gyfaill! 听 |
StraeonCanmol Steddfod lwyddiannus11 Awst 2007Goresgyn anawsterau yn wyneb haul llygad goleuni Er i gyfanswm yr ymwelwyr a'r Eisteddfod yr wythnos hon fod yr isaf ers tair blynedd yr oedd yr 糯yl ei hun yn cael ei disgrifio fel llwyddiant ysgubol gan y trefnwyr. Hynny oherwydd bod hon yn eisteddfod a ymddangosai ar adegau ei bod wedi ei thynghedu i beidio a bod. Ond diolch i gyfuniad o dywydd braf yng nghanol yr haf gwlypaf ers cyn cof a chefnogaeth leol anhygoel gan gynnwys cefnogaeth Cyngor Sir y Fflint llwyddiant oedd yn tywynnu heddiw. Er i law trwm ddod yn ystod y cyngerdd olaf nos Sadwrn, fel pe i atgoffa'r trefnwyr pa mor lwcus fu nhw mewn gwirionedd. Ond methodd hyd yn oed hynny a tharfu ar berfformiad hynod y pianydd Llyr Williams a chwaraeodd, yn 么l ei arfer, heb gopi a'r gynulleidfa ar ei thraed yn cymeradwyo wedyn. Dydd Gwener orauDros yr wythnos 154,944 a ymwelodd 芒'r maes gyda dydd Gwener, diwrnod y Cadeirio, y diwrnod prysuraf o drwch blewyn - 23,941 o gymharu 芒 23,092 ar y dydd Mercher, diwrnod y Fedal Ryddiaith a chroesawu'r Cymry tramor. Ond yr oedd yna ymhlith y trefnwyr lai o gymharu ffigurau a mwy o ddathlu i'r Eisteddfod hon gael ei chynnal o gwbl. Wedi'r cyfnod hir dros ddwy flynedd yn 么l o fethu a chael cartref iddi daeth llwyddiant rhyfeddol yr ymgyrch leol i godi arian yn eli ar y briwiau. Ond hyd yn oed hynny yn cael ei fygwth gan y glawogydd trymion a drodd y maes yn gors o fwd dim ond pythefnos cyn yr agoriad swyddogol a'r trefnwyr yn gwylio gyda gofid y drochfa ar faes y Sioe Frenhinol. Ac wrth gyfeirio at fygythiad y tywydd dywedodd Aled Lloyd Davies: 'Cychwyn pryderus'"Fe gawsom ni gychwyn pryderus ac yr oedd gennym ni ddewis mawr i'w wneud - ac o'i roi o mewn termau moel, mwd neu gerrrig oherwydd sut oeddem ni i wybod fod y tywydd yn mynd i wella? "Ond wrth gwrs, doedd hyn ddim yn dod yn rhad ac am ddim. Mae o wedi costio cruglwyth o bres inni - rhyw 拢60,000 yn ychwanegol o leiaf nad oeddem ni wedi bargenio amdano. "Fe allwch chi ddychmygu fod hynny wedi bod yn dipyn o sioc inni ar ddechrau'r wythnos ac roeddem ni'n reit bryderus ar y cychwyn." "Ond ychwanegodd fod pobl Sir y Fflint ac eisteddfodwyr Cymru wedi "ymateb yn rhyfeddol gyda'u traed a chyda'u pocedi". "Oherwydd mi fedrai'r hyn oeddem ni'n i weld ar y cyfryngau o'r Sioe Amaethyddol fod wedo gwneud i lawer ohonyn nhw dorri eu calon a dweud ; 'Dydw i ddim am olchi'n welingtons a dod a nhw yr holl ffordd i Sir y Fflint '," meddai. Mwy yn y pafiliwnCanmolodd hefyd y niferoedd mwy nag arfer aeth i mewn i'r pafiliwn ei hun gan ychwanegu i'r cyngherddau gyda'r nos wneud yn well na'r disgwyl hefyd. A dywedodd ei fod o'r farn fod mwy nag arfer o bobl ifainc ar y maes eleni. Talodd deyrnged arbennig i Gyngor Sir y Fflint am ei gefnogaeth ef i'r Eisteddfod. "Fe fu'n gefn mawr inni," meddai ac yn fodd i roi hwb i bwyllgorau codi arian lleol gyda'r rhan fwyaf o'r reini wedi codi mwy na'r nod osodwyd iddynt. "Codwyd trwy ap锚l leol 拢365,000 - sef mil o bunnau am bob dydd o'r flwyddyn," meddai. Nid yn unig siriolodd y tywydd ond bu hon hefyd yn eisteddfod rydd o drafferthion trafnidiaeth hefyd. Pob un yn wahanolDywedodd Cadeirydd Cyngor yr Eisteddfod, Dafydd Whittall, mai'r hyn a wnaeth argraff arno fo oedd fod hon yn eisteddfod lle canolbwyntiwyd ar faterion eisteddfodol yn unig. "Chawsom ni ddim ein llurgunio a'n tynnu tuag faterion eraill," meddai. "Un o bethau mawr Steddfod i mi ydi fod pob un yn wahanol wrth iddi gymryd natur y lle mae hi. Mae Eisteddfod Sir Fflint wedi bod yn wych. Mi fydd Eisteddfod Caerdydd yn wych ond yn wahanol a dyna pham y mae pobl yn fodlon dod o flwyddyn i flwyddyn. Maen nhw'n cael ffics wythnosol ond y ffics yna ychydig bach yn wahanol o le i le," meddai. Dyma'r ffigurau mynediad cyflawn gyda rhai Abertawe y llynedd, Eryri, 2005 a Chasnewydd, 2004, yn dilyn:
Categori
|
About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy 听 |