Mae'r planhigyn Asalea yn perthyn i ddosbarth y Rhododendron. Mae yna filoedd o fathau i'w cael a'r rheini yn tyfu dros y byd. S么n am ddau yn unig y byddaf yn yr erthygl hwn. Planhigion ar gyfer eu tyfu mewn potiau yw'r ddau. Y cyntaf yw yr un Indiaidd sef yr Azelia Indica, a'r llall yr un Siapaneaidd Rhododendron Obtusum.
Bob blwyddyn mae nifer fawr o bobl yn prynu'r planhigion yma o ganolfan garddio fel anrheg Nadolig, gyda'r bwriad o gael toreth o liwiau addurnol. Mae'n syndod fel y gall y planhigyn, sydd ond yn gorrach o blanhigyn, roi cymaint o flodau ac yn parhau felly i roi cymaint o bleser dros 糯yl y Nadolig ac i fewn i'r Flwyddyn Newydd.
Mae'n bwysig cofio mai'r un mwyaf addas i'w brynu yw'r Azelia Indica oherwydd ei amrywiaeth o liwiau sef coch, pinc, oren, a gwyn. Mae'r Rhododendron Obtusum o dan ychydig o anfantais gan fod y blodau yn llai o ran maint a rhif ac felly heb fod mor boblogaidd.
Wrth ddewis planhigyn i'w brynu cyn y Nadolig dylid dewis un sydd a dim ond un neu ddau flodyn wedi agor, ac yn sicr heb fod yn llawn blodau ond digon yn barod i flodeuo, gydag amser.
Wrth ofalu am gynnal a chadw yr Asalea, dylid ceisio ymestyn y tymor blodeuo i'r eithaf, drwy dynnu y blodau sydd ar fin gwywo ymaith yn rheolaidd. Fe fydd hyn yn sicrhau y bydd yr Asalea yn blodeuo yn ei holl ogoniant y flwyddyn nesaf. Dylid gwneud yn si诺r fod y gwrtaith yn llaith ond heb fod yn rhy wlyb. I wneud hyn dylid gosod y pot mewn bowlen o dd诺r glaw neu ffynnon. Dylid osgoi defnyddio d诺r tap, yn arbennig yn nyffryn Tywi, gan fod y d诺r wedi ei drin ac yn cynnwys calch sy'n elyniaethus i'r Asalea. Mae d诺r tap hefyd yn cynnwys nwy chlorine, felly rhwng effaith y gymysgedd o'r calch a'r chlorine, gall hyn beri i'r dail felynu (chlorosis).
Dylid chwistrellu'r dail yn ysgafn, ffein, neu eu sychu gyda gwl芒n cotwm gwlyb o'r d诺r glaw, yn ddyddiol, yn ystod tymor y blodeuo. Os fydd y dail yn crebachu yna y mae'n arwydd o sawl peth:
1. Bod angen mwy o dd诺r
2. Bod yr ystafell yn rhy oer
3. Bod yr ystafell yn rhy gynnes
4. Wedi ei leoli mewn gormod o haul, os felly rhaid fydd ei symud i rywle mwy addas.
Wedi iddo orffen blodeuo dylid symud y pot i le oeraidd ond allan o afael rhew. Parhewch i ddyfrhau. Ym mis Mawrth dylid ei ail-botio gan ddefnyddio compost sy'n rhydd o galch gan wneud yn si诺r ei fod yn wlyb. Gosodwch y pot allan pan fo'r perygl o rew wedi diflannu. Defnyddiwch fwyd sy'n cynnwys ond ychydig iawn neu yn rhydd o galsiwm, hyd canol mis Medi.
Gallwch osod y pot mewn ystafell oeraidd, a phan fydd y blodau yn dechrau agor, gosodwch yn yr un ystafell ag yr oedd y Nadolig blaenorol.
Gan Hywel Jones i bapur bro Y Lloffwr.