Er bod y tywydd yn ddiflas a'r tir yn go anysbrydoledig, mae yna ddigon o waith yn yr ardd ym mis Ionawr meddai Luned Whelan.
Materion tymhorol
Os nag oes eira a rhew, mae yna wastad cawodydd trymion o law ym mis Ionawr. Ac oherwydd ei bod wedi bod mor wlyb, dyw hi ddim yn syniad da i gerdded ar eich gardd na'ch lawnt o gwbl rhag niweidio'r tir. Peidiwch 芒 phlannu unrhyw beth o'r newydd; os bydd hi'n parhau i fod yn wlyb, gallai'r planhigion foddi oherwydd diffyg ocsigen yn y tir.
Os oes angen chwynnu, gwnewch hynny gyda llaw i'r rhai sydd o fewn cyrraedd. Un o fanteision y tir gwlyb ydy y bydd gwreiddiau'n codi'n rhwydd, yn enwedig rhai llai a rhai ifanc. Felly gwnewch y mwyaf o'r cyfle i glirio ychydig bach yn gymharol ddiymdrech.
Os ydych chi eisiau dod ag ychydig o liw parod i'r ardd, un o'r prysglwyddau cynharaf yw'r camelia. Fe gewch chi nhw mewn canolfannau garddio, a'u prisiau'n amrywio yn 么l eu maint hyd at tua 拢35.00. Maen nhw ar gael mewn coch, gwyn a phinc, yn flodau dwbl neu sengl.
Blodau
Gallwch chi gadw'r camelia yn y potiau i fwynhau'r blodau'n agos at y t欧 cyn eu plannu. Pan ddaw hi'n amser gwneud, mae angen tir asid ar y camelia. Mae ei safle delfrydol 芒'i gefn at y dwyrain, achos os daw rhew, mae llai o debygrwydd y bydd yr haul yn niweidio'r blodau wrth doddi'r rhew.
Beth am roi cynnig ar blannu tu mewn? Gall y planhigion bach wedyn gael eu symud i botiau a/neu'r pridd dros y misoedd nesaf. Gallwch wneud hyn gyda llysiau a blodau. O ran llysiau, rhowch gynnig ar letys, roced, mwstard a berwr, a pak choi.
Mae nifer o flodau sy'n addas i'w dechrau fel hyn. Mae antirrhinum (pen-ci-bach) yn amrywio o ran maint. Gallwch dyfu rhai bach mewn potiau neu rai mwy yn yr ardd i'w torri ar gyfer y t欧. Adnabyddir y blodyn gan rai fel 'Dwy golomen' - edrychwch ar y tu mewn i weld y ddwy golomen.
Bydd ceilys (carnations) a llys y drindod (pansies) yn dod yn gymharol fuan. Os ydych chi'n hoffi prosiect mwy tymor hir, meddyliwch am lobelia (sy'n blodeuo o fis Mehefin trwy'r haf). Am her sy'n galw am ddigon o amynedd, beth am begonia semperflorens, a'r hadau fel gronynnau o dywod? Bydd hi'n haf cyn i'r rhain ddod i'w llawn ogoniant!
Hau'r Hadau
Gallwch chi roi'r hadau mewn cynhwysydd hirsgwar unigol os am blannu llawer o'r un peth. Defnyddiwch gompost hau neu gompost amlbwrpas. Os hoffech chi arbrofi gyda gwahanol bethau, defnyddiwch unedau plastig unigol mewn stribedi neu sgwariau. Gallwch dyfu amrywiaeth o ddail salad yma - mizuna, taisai a letys cymysg ac Arch Noa, winwns salad a pak choi. Cofiwch labelu'r cyfan.
Unwaith byddwch chi wedi hau, rhowch y cynhwysydd mewn bag polythen a'i gau'n dynn o gwmpas y cynhwysydd. Cadwch mewn cwpwrdd caledu neu rywle cynnes, tywyll er mwyn i'r gwres hybu'r egino, a gadael iddyn nhw fod.
Dechreuwch edrych am arlliw o liw ar y dail bach gwyrdd wedi wythnos, a chadw'r cynhwysydd yn y man cynnes nes y gwelwch nhw'n dod. Byddwch yn amyneddgar - gall gymryd pythefnos neu fwy. Tynnwch y cynhwysydd allan o'r bag a'i roi yn rhywle golau i annog tyfiant - mae golau'n hanfodol yn y cyfnod hwn. Sgeintiwch dd诺r dros y planhigion bach yn hytrach na'i arllwys am eu bod yn dyner.
Palwch mlaen!
Luned Whelan