91热爆

Llysiau'r Ddidol: Nadolig / Ionawr

Cyclamen

Hywel Jones yn mynd ati i roi cyngor ar sut i ofalu am Lysiau'r Ddidol (Y Cyclamen).

Planhigyn yn perthyn i'r teulu 'Primulaceae' neu'r briallu yw'r cyclamen. Yr un sydd fwyaf tebygol o flodeuo dros y Nadolig yw y cyclamen persicum. Planhigyn ar gyfer y t欧 i'w dyfu mewn pot yw hwn.

Ceir Llysiau'r Ddidol mewn gwahanol liwiau fel gwyn, coch, pinc a fioled. Mae coesgyn y blodeuyn yn un hir ac yn tyfu'n dalach na'r dail, sy'n harddwch unigryw eu hunain. Gellir tyfu'r planhigyn o'i gyflwr fel corn yn weddol hawdd. Mae'n bosib i'w dyfu o had, ond mae'r broses yn cymryd tua dwy flynedd. Yn ychwanegol, mae'r hadau yn ddrud i'w prynu.

Yn ddelfrydol mae angen tymheredd oddeutu 15-18 Celsius yn y dydd ac heb fod o dan 10Celsius yn y nos. Mae angen golau dydd arno ond ni ddylid ei gadw yn wyneb yr haul, e.e peidiwch 芒'i gadw ar sil y ffenestr oni bai fod gennych ffenestri gwydr dwbl. Y rheswm am hyn yw y gall tymheredd gwympo yn isel yn ystod y nos ac achosi niwed i'r planhigyn.

Cofiwch ddyfrhau o'r gwaelod mewn soser yn cynnwys haenen o gerrig m芒n. Golyga hyn y bydd y d诺r yn ageru a chreu lleithder mewn ystafell sydd 芒 thymheredd cynnes. Mae'n bwysig i'r planhigyn gael digon o leithder pan yn eu flodau. Os bydd y dail yn melynu yna fe fydd yn arwydd bod yr ystafell yn rhy dywyll, rhy gynnes neu yn rhy sych. Gwell fydd ei symud wedyn i le mwy addas.

Cofiwch dorri ymaith y blodau fel y byddant yn gwywo, er mwyn ymestyn tymor blodeuo llysiau'r ddidol (cyclamen) i'r eithaf, ond peidiwch 芒 defnyddio siswrn neu gyllell i wneud hyn. Dylid cydio yn y coesyn a'i 'dwistio' i ffwrdd gan y bydd hyn yn diogelu'r coesyn rhag cael ei wenwyno a pheri iddo bydru.

Gellid disgwyl i'r cyclamen barhau i flodeuo o ddechrau mis Rhagfyr hyd ddiwedd mis Ionawr, pan y bydd yn llawn amser i dorri lawr ar y dyfrhau a'r bwydo, er mwyn i'r corm gael gorffwys hyd mis Gorffennaf. Wrth weithredu fel hyn bydd y corm yn cael nerth yn ystod ei gyfnod o orffwys er mwyn sicrhau blodau yn eu holl ogoniant y Nadolig nesaf i chi!

Gellid gadael y corm o fewn y pot, y tu allan yn ystod mis Gorffennaf er mwyn iddo gael awyr iach ac ambell gawod o law. Os bydd tymor yr haf yn un sych yna dylid roi ychydig o dd诺r iddo. Peidiwch a gollwng y corm i sychu allan yn gyfan gwbl, oherwydd fe all grebachu arnoch.

Canol mis Hydref ail botiwch gan ddefnyddio gwrtaith aml ddefnydd yn hollol wlyb, a'i leoli yn 么l i'r t欧. Gwnewch yn si诺r fod ychydig o'r corm i'w weld ar wyneb y gwrtaith. Gosodwch mewn man addas fel ar y cychwyn, a gwelwch yn fuan iawn fod y corm unwaith eto yn dechrau blaguro ar 么l cyfnod o orffwys. Cofiwch ei fwydo gyda phostrogen, neu rhywbeth tebyg, o'r gwaelod pan y dylai'r pot fod eto ar gerrig m芒n.

Gan Hywel Jones i bapur bro Y Loffwr.


Llyfrnodi gyda:

91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.