Mae'r blodeuyn sydd o dan sylw yn yr erthygl hon yn flodeuyn arbennig iawn i ni'r Cymry am fwy nag un rheswm. Gyda balchder y gwisgwn y blodeuyn ar achlysuron arbennig fel Dydd G诺yl Dewi neu ar ddiwrnod g锚m Rygbi Rhyngwladol neu unrhyw adeg sydd yn ymwneud ag achlysuron Cymreig. Purion beth felly yw i mi roi sylw priodol i'r blodeuyn arbennig hwn.
Yr enw cywir am y Genhinen Pedr yw narcissus, blodeuyn sydd yn un caled yn gyffredinol. Gellir cael rhai fel "paper white", sy'n dyner a'r rhain i'w gweld yn tyfu ar arfordir de Lloegr. Yn y gofrester Rhyngwladol y Gymdeithas Arddio Frenhinol (R.H.S.) mae yna restr o dros wyth mil o wahanol fathau i'w cael ar hyd a lled y byd.
Gellir tyfu'r Cennin Pedr bron ymhobman, ac os yn bosib, mewn pridd gweddol drwm. Er mwyn arbed y bwlb rhag pydru ni ddylai'r pridd fod yn rhy wlyb. Dylid plannu'r bylbiau o ddiwedd mis Awst hyd at ganol mis Tachwedd, er mwyn sicrhau digon o flodau o ganol mis Chwefror hyd at ganol mis Mai. Cofiwch blannu mewn dyfnder o thua chwe modwedd ac yn agos i'w gilydd. Golyga hyn na fydd perygl i niweidio'r bylbiau gyda fforch wrth blannu planhigion yr haf yn yr un man. Defnyddiwch 100gram o gymysgwch blawd esgyrn (bone meal) a "Vitax Q4" i bob mydr sgw芒r. Mae'n hawdd cymysgu'r ddau yma, ac mae effaith y gymysgedd yn parhau am fisoedd, gan ei fod yn cynnwys elfennau prin sy'n hanfodol bwysig.
Os sylwir y blodau, rywbryd yn y dyfodol, yn mynd yn llai eu rhif a'u maint, yn ogystal 芒 rhif y dail yn cynnyddu, mae hyn yn arwydd pendant fod eisiau teneuo neu rannu'r bylbiau, a'u traws blannu, pan fydd y genhinen yn gorffen blodeuo, gwywo a throi'n felyn. Ni ddylid eu codi a'u traws blannu cyn bod y dail wedi melynnu, oherwydd y dail melyn yma sydd yn bwydo'r bylbiau yn y tymor gorffwys.
Y dewis gorau o'r Genhinen Pedr, yn fy marn personol i, yw'r blodeuyn trwmped fel y Golden Harvest (aur a melyn) a'r King Alfred (melyn), sy'n blodeuo ychydig yn ddiweddarach yn y tymor. Ffefryn arall yw blodyn cwpan mawr (large cup) fel Carlton (melyn), Ice Follies (gwyn ac ifori),a Scarlet Elegance (aur melyn a scarlet).
Os am flodyn trwm a dwbl dylid dewis Mary Copeland (gwyn disglair a chanol oren), sy'n addas i'w plannu yn agos i'w gilydd mewn gwelau mawr. Os am blannu mewn lawnt neu greigfa, dylid dewis blodyn y cwpan bach fel April Tears (melyn). Mae'r math yma yn medru cynhyrchu i fyny at uchafswm o chwe blodyn ar goesgyn gweddol fyr. Ni ddylid angofio'r mathau botanegol fel Canaliculatus, gan fod y rhain, er yn tyfu'n wyllt, gyda'r harddaf o'r holl fathau sydd ar gael.
"Gwisg genhinen yn dy gap a gwisg hi yn dy galon."
Gan Hywel Jones i bapur bro Y Loffwr.