91热爆

Poinsetia: Nadolig

Poinseta

Syniadau gan Hywel Jones ar sut i sicrhau harddwch y Poinsettia - planhigyn pot sy'n ei holl ogoniant yn ystod g诺yl y Nadolig.

Gan ein bod ar drothwy y Nadolig, priodol fyddai talu sylw i blanhigyn pot sydd yn ei holl ogoniant ar yr adeg yma. Enw'r planhigyn yw y Poinsettia, a'i enw botanegol Euphorbia pulcherrima, yn golygu "prydferth iawn". Mae'r planhigyn hwn wedi dod yn boblogaidd iawn yn ystod y blynyddoedd diwethaf fel anrheg Nadolig, ac fel rhan o'r addurniadau yn y t欧 gan fod ei liw coch pert yn harddu'r lle.

Cafodd y Poinsettia ei enw ar 么l Joel Robert Poinsettia, llysgennad Yr Unol Daleithiau i wlad Mecsico yn y flwyddyn 1825 pan dderbyniodd y planhigyn yn anrheg Nadolig. Ar y pryd planhigyn gwyllt ydoedd yn tyfu yn anialwch De Mecsico. Gan iddo ddotio'n llwyr ar y planhigyn, penderfynodd ei gyflwyno i'r Unol Daleithiau ym 1826.

Mae'r planhigyn yn unigryw,gan mai'r blodeulen sydd yn goch ei liw, ac nid y prif ddeilen. Prin yw oes blodeulen ac fe'i ceir yn ei holl ogoniant adeg G诺yl y Geni. Yn ei gynefin ble mae'r tywydd yn drofannol, mae'n cael ei gofrestri yn brysgwydden lluosflwydd ac yno gall dyfu i fyny at a thros 3 medr o daldra.

Yn 么l hen chwedl Fecsiciaidd daeth y planhigyn i fodolaeth pan benliniodd gwerinwraig ifanc i wedd茂o ar Noswyl Nadolig i ofyn am flodau coch i osod oddeutu'r allor. Atebwyd ei gweddi pan ymddangosodd angel gan droi y chwyn a dyfai o amgylch y caban pren a oedd yn gartref iddi, yn Poinsettia coch hardd. Felly cafodd y ferch fwy na digon o flodau i addurno'r allor. Deallodd ar unwaith fod y lliw coch yn addas fel addurn Nadoligaidd. Mae'r Ponsettia a greodd Duw i harddu'r anialwch mewn gwledydd fel Mecsico erbyn hyn yn cael ei ddefnyddio i harddu cartrefi a'n hadeiladau ni.

Yn y dyddiau cynnar pan sylweddolwyd bod mewnforio'r planhigyn yma i Brydain yn bosibl o safbwynt masnach ond rhaid oedd ei gwtogi i'w gynnwys mewn pot, ar gyfer y t欧. Fel canlyniad, mae'r planhigyn yn cael ei drin gan gemegyn sydd yn rhwystro tyfiant tal. Mae'r planhigyn yn cael ei gadw dan reolaeth lem mewn meithrinfeydd, er mwyn sicrhau fod y bracts lliwgar yn eu holl ogoniant erbyn y Nadolig. Caiff ei gadw mewn tymheredd addas a chyson am gyfnodau hir o dywyllwch.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn y marchnadoedd, mae yna amryw o liwiau eraill i'w gweld ymysg y Poinsettia, e.e. Lemon Snow sydd 芒 blodeulen o liw hufen, sydd yn edrych yn ddeniadol ymhlith y rhai coch. Un arall a gyflwynwyd yn ddiweddar iawn yw y Sonora White Glitter, ffefryn gan lawer, gan fod y flodeulen yn amryliw. Yn yr Almaen dechreuwyd yr arfer o chwistrelli'r dail gan belydrau o liw arian daeth yn arfer hefyd yng Nghymru er mwyn creu naws Nadoligaidd i'r t欧.

Er mwyn sicrhau harddwch blynyddol y Poinsettia cynigaf rai syniadau. Y man mwyaf delfrydol i'w osod yn ystod yr 糯yl yw ar sil y ffenestr, sy'n wynebu'r de, gan ofalu na fydd y dail yn cyffwrdd 芒 gwydr oer y ffenestr, oherwydd gall hyn achosi i'r dail grebachu. Mae tymheredd yr ystafell yn hollol bwysig 10-20 gradd Celsiws yn ystod y dydd ac heb fod o dan 10 gradd Celsiws y nos, i gadw'r gwreiddiau rhag pydru. Ni ddylid peri iddo fod yn agored i ddraft, boed oer neu gynnes rhag achosi'r dail i gwympo cyn pryd.

Dylid cadw llygad rhag i'r pridd yn y pot ddioddef sychder. Mae angen dyfrhau nes fod d诺r yn dod allan o dyllau draeno'r pot gan ofalu na fydd d诺r yn aros yn y soser i bydru'r gwreiddiau. Mewn ystafell a chanddi olau cryf a lleithder isel fe fydd eisiau dyfrhau yn amlach. Gall y dail gwympo oherwydd sychder, felly rhaid dyfrhau yn union ac eto ymhen deng munud. Dylid parhau i ddyfrhau hyd yr wythnos gyntaf ym mis Ebrill, ac yna torri lawr yn raddol, ond peidio a'i adael i sychu allan yn gyfan gwbl.

Canol mis Mai, dylid torri'r coesau yn 么l i tua 10cm, ei ail botio mewn pot sydd yn 2.5cm diamedr yn fwy gan ddefnyddio "soil less compost" ffres o raddfa uchel. Ni ddylid ar un cyfrif ddefnyddio pridd o'r ardd, oherwydd y perygl o bla. Dylid gosod y planhigyn mewn llecyn oddeutu 15-20 gradd Celsiws, gan ddyfrhau yn gyson. Pan fydd arwydd o dyfiant ffres yn datblygu, dylid ychwanegu gwrtaith doddadwy e.e Phostrogen bob pythefnos.

Yn nechrau mis Mehefin, dylid symud allan i awyr agored a'i osod mewn llecyn cysgodol, gan ychwanegu d诺r a gwrtaith yn yr un dull 芒'r mis blaenorol. Tua dechrau mis Gorffennaf dylid torri pob coes, yna rhwng canol a diwedd mis Awst torri unrhyw goesau ffres a fydd yn dangos, gan ollwng tua tair neu bedair deilen ar bob ysbrigyn. Dechrau mis Medi dylid dod 芒'r planhigyn yn 么l i'r t欧 a'i osod yn yr un llecyn a chynt gan ddyfrhau ac ychwanegu gwrtaith toddadwy bob pythefnos hyd at wythnos gyntaf mis Rhagfyr.

Rhaid osgoi gostyngiad y dymeredd o dan 10 gradd Celsiuws. Dylid ei ollwng mewn lle tywyll rhwng pump o'r gloch y prynhawn ac wyth o'r gloch y bore o Hydref 1af hyd Tachwedd 30ain, a'i osod ar y silff ffenestr weddill yr amser.

Gan Hywel Jones i bapur bro Y Loffwr.


Llyfrnodi gyda:

91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.