Mis twyllodrus yw Ebrill i'r garddwyr. Gall fod yn dyner un diwrnod yna'n sydyn y gwynt yn troi i'r dwyrain a deifio popeth.
Er bod tymheredd y byd yn gyffredinol yn codi, gall ambell wanwyn fod yn oer iawn.
Peidiwch a chael eich temtio i brynu planhigion yr haf yn rhy gynnar, er bod y siopau'n gyforiog ohonynt. Eisiau gwerthu maent hwy. Arhoswch hyd ddechrau Mai. Bob blwyddyn mae llawer yn gorfod ail blannu wedi'r rhai cyntaf gael eu lladd gan oerni.
Un peth da'r dyddiau hyn yw'r ffaith fod cymaint o blanhigion yn cael eu plannu mewn potiau ac felly'n hawdd eu plannu ar unrhyw amser. Mae'n werth i chwi aros iddynt flodeuo cyn eu prynu i chwi weld beth ydych yn ei gael.
Amser yma o'r flwyddyn gofalwch brynu planhigion o botiau sydd wedi bod allan ac nid rhai o dai gwydr.
Does dim tebyg i datws o'ch gardd chi eich hyn, ac maent yn werth eu plannu, petai ond rhes ohonynt. Ers talwm y diwrnod i blannu tatws newydd oedd dydd Gwener y Groglith. Mae hyn yn od oherwydd gall y Groglith fod ddiwedd Mawrth neu ddiweddar Ebrill. Gyntaf medrwch, ewch i siop lle mae'r tatws i'w cael o sach a dewisiwch rai o faint w欧.
Y lle delfrydol i'w cychwyn yw wrth ffenest yn wynebu'r de. Eu rhoi mewn bocs bach twt yr ochr arall i'r cyrten a fydd neb callach eu bod yno!
Tasgau - ychydig o wrtaith i'r lawnt a'r planhigion. (Gofalwch mai gwrtaith lawnt gaiff y lawnt neu byddwch yn 'lladd gwair' drwy'r haf) - plannu gladiolus, byth mewn rhes ond rhyw bump yma ac acw iddynt edrych yn naturiol - plannu rhes o ffa a nionod (slots), plannu mwy yn nes ymlaen i gael rhai meddal drwy'r haf - gofalu bod y peiriant lladd gwair yn gweithio a golchi ffenestri t欧 gwydr.
Fydd yna fawr o amser i stwna pan ddaw Mai, y mis prysuraf!
O bapur bro Y Rhwyd a wnaeth ymddangos ar wefan 91热爆 Lleol.