Y Saffrwn - blodyn sy'n "rhoi lliw i lwydni'r tywydd oer." Hywel Jones sydd yn rhoi cyngor ar sut i dyfu'r blodyn yma.
Llawenydd i bawb ar ddechrau blwyddyn yw gweld y lili wen fach yn gwthio'i ffordd drwy'r ddaear oer a chaled i godi calon pawb. Fodd bynnag, am y tro, fe rof sylw i'r saffrwn sydd hefyd yn rhoi lliw i lwydni'r tywydd oer a chaled ac y mae pob un ohonom yn gyfarwydd 芒'r blodeuyn bach serchus hwn.
Mae'n torri ar undonedd y gaeaf hir ac yn cyhoeddi fod tymor y gwanwyn yn agosau. Gwelir y saffrwn yn tyfu mewn safle heulog, ac felly gellir ei blannu mewn creigardd a borderi. Os c芒nt eu plannu mewn blychau i'w rhoi ar sil y ffenestr neu mewn casgenni blodau, gellir eu symud fel y bo'r dymuniad a'u rhoi mewn gwahanol sefyllfaoedd, pan fydd y blodau yn lliwgar ac yn eu holl ogoniant a'u symud eto ar 么l iddynt flodeuo i fan naill ochr.
Ceir amrywiaeth o liwiau e. e. Advance, (gwyn a fioled) Blue Pearl, (glas ac arian) a Zwanenburg Bronze (aur a melyn). Er bod y rhain yn flodau bychain, maent yn medru dal tywydd garw. Os am flodau mwy o faint, yna dewiswch Yellow Giant (melyn) neu Pickwick (gwyn a llinell las), syniad da yw cymysgu'r ddau fath yma yn ystod plannu. Dylid plannu'r cormiau yn yr Hydref, mewn gr诺p o ddwsin, er mwyn dangos pentwr o flodau lliwgar.
Ni ddylid eu plannu fwy na dwy fodfedd o ran dyfnder a gadael chwe modfedd rhwng y gr诺p. Er mwyn eu diogelu rhag cael eu bwyta gan lygod bach ni ddylid eu plannu yn rhy ddwfn, os bydd arwydd o hyn i'w weld dylid gosod trapiau gerllaw a thamaid o siocled fel abwyd gan ei fod yr un lliw ac yn fwy blasus iddynt.
Ar 么l iddynt orffen blodeuo ni ddylid torri'r dail na chwaith y blodau sydd wedi gwywo. Gadewch natur y gwanwyn cynnar i wneud hyn.
Saffrwn yr Hydref
Er ein bod yn cysylltu'r blodeuyn saffrwm 芒 dyfodiad y gwanwyn, mae yna fathau eraill o'r saffrwn sydd yn blodeuo yn yr Hydref. Mae'r blodau hyn yn gymharol fychan, felly, dylid dewis lle heulog, a phridd ysgafn ar eu cyfer. Rhaid sicrhau fod y pridd yn wlyb cyn eu plannu gan gofio dyfrhau yn rheolaidd os fydd y pridd wedi sychu allan.
Dylid plannu y rhain yn ystod mis Awst gan ddisgwyl iddynt i flodeuo yn yr Hydref. Y math sydd fwyaf poblogaidd yw'r Crocus Sativus (pinc gwynnaidd i leilac golau). Defnyddir y pistils ar gyfer gwneud sbeis 'saffron', ac felly yr enw yn berthnasol i'r enw Cymraeg saffrwm.
Does dim llawer i'w wneud yn yr ardd yn ystod Chwefror felly, gwnewch fawr o'r cyfle i gael ychydig seibiant cyn daw'r amser i fynd ati i ddechrau garddio go iawn!
Gan Hywel Jones i bapur bro Y Loffwr.