91热爆

Garddio: Gorffennaf

Rhosod

Hywel Jones sy'n cynnig cyngor garddio ar drin llysiau a blodau yn ystod Gorffennaf.

Pla ac afiechydon

Dylid defnyddio ffrwd rymus o dd诺r ar gyfer cael gwared ag aphis (aphids) oddi ar lili ogwydd (water-lilies). Dylid chwistrellu rhosynnau er mwyn eu diogelu rhag ymosodiad gan lwydni blackspot a rhwd. Dylid chwistrellu'n rheolaidd ar gyfer difa pryf, fel white fly a red spider mite, gan gyflawni'r dasg ar 么l machlud haul, er mwyn i'r hylif wneud ei waith dros nos.

Blodau Blynyddol yr Haf

Os bydd ambell blanhigyn yn ddiffygiol neu wedi methu, gellir llanw'r bwlch trwy drawsblannu planhigion sydd wedi eu tyfu mewn potiau e.e. Myrtawyd y Bugail, Ffiwsia a Begonia. Dylid cael gwared 芒 blodau sydd wedi gwywo'n rheolaidd er mwyn rhoi chwarae teg i flodau ffres i ddatblygu.

Basgedi Crog a Blychau sil ffenestr

Dylid pinsio allan bennau hiraf y planhigion yn aml. Rhydd hyn gyfle i'r planhigyn gynhyrchu llawer mwy o flodau a thyfu'n fwy trwchus.

Diflaguro

Dyrna'r amser mwyaf addas i dorri pennau Blodau Mihangel er mwyn sicrhau digon o flodau a choesgyn cryf yn ystod mis Medi. Dylid diflaguro'r dahlias yn rheolaidd, rhydd hyn chwarae teg i un blodyn cryf i dyfu ar un coesgyn, sy'n bwysig iawn, yn enwedig ar gyfer arddangos mewn sioeau.

Hau Had

Dyma'r amser mwyaf delfrydol i blannu had Bysedd y Cwn, Sweet William, Canterbury Bells, a Forget me Nots. Dylid docio pennau'r blodau bythol cynnar (Early Perennials), a chael gwared ar flodau sydd wedi gwywo ar blanhigion fel Lupins, a Delphiiziiems. Rhydd hyn ail gnwd o flodau yn ddiweddarach yn y tymor. Yr un adeg mae'n fanteisiol ychwanegu ychydig o wrtaith fel Growmore, o gwmpas b么n y planhigion, er mwyn i dyfiant ffres ac iachus ddatblygu.

Chwyn

Dylid taclo'r chwyn yn rheolaidd, cael gwared ar flodau gwyllt fel dant y llew a blodau ymenyn, cyn iddynt fynd i had. Mae yna amryw fathau o chwyn lladdwyr ar y farchnad, e.e. yr un mwyaf poblogaidd yw'r hylif Round Up, gan ei fod yn medru cyrraedd y gwreiddiau. Os bydd yna lecyn segur, yna syniad da fyddai gosod polythen du i lawr ar y safle.

Y T欧 Gwydr

Dylid archwilio planhigion mewn potiau a'u dyfrhau yn rheolaidd, gan ychwanegu gwrtaith hylifol e.e. phostrogen, yn wythnosol. Os bydd ambell flodyn wedi mynd i had neu ddeilen yn colli lliw, dylid eu gwaredu, hefyd dylid cadw llygaid barcud am unrhyw ran o'r planhigyn sydd yn dangos arwydd o haint neu bla. Dylid defnyddio'r chwistrellwr i atal hyn.

Awyru

Dylid agor drws a'r ffenestr awyru (ventilator) yn weddol fore a'u cau yn y nos, heblaw am ambell noswaith glos, er mwyn sicrhau nad oes adar, bywyd gwyllt neu anifeiliaid anwes yn achosi difrod. Os bydd arwydd o hyn, dylid defnyddio rhwyd neilon i'w hatal.

Bagiau Tyfu

Dylid sicrhau nad yw'r bagiau'n sychu allan. Mae'n syniad da gosod y bagiau ar bolythene du, sydd yn cynnwys ychydig dd诺r.

Chwistrellu

Fel y soniais ar ddechrau'r erthygl, dylid chwistrellu'n rheolaidd er mwyn cael gwared ar bryfed ar 么l machlud haul, fel ei fod yn cael trwy'r nos i weithredu. Er mwyn Iechyd a Diogelwch mae'n beth doeth i fynd allan o'r t欧 gwydr yn weddol gyflym a chau'r drws er mwyn peidio ag anadlu'r hylif yn fwy nag sydd raid.

Gardd y Gegin

Yr adeg yma gellir cymryd toriadau o'r perlysiau fel saets (sage) a theim, oherwydd mae yna ddigonedd o flagur tyner yn tyfu o'r fam blanhigyn.

Cynaeafu

Dyma'r amser mwyaf delfrydol i gynaeafu betys oherwydd y ffaith eu bod yn ifanc ac yn dyner ac o ganlyniad yn blasu'n dda. Erbyn hyn bydd tatws cynnar yn barod i'w tynnu ar gyfer y bwrdd. Dylid sicrhau nad yw'r gwely tatws yn mynd yn sych, oherwydd gall hyn yn sicr amharu ar y cyflenwad ac mae hefyd yn fwy tebygol o ddioddef o ryw glefyd neu haint.

Winwns

Er mwyn sicrhau cyflenwad da, dylid dyfrhau'r gwely yn rheolaidd ac edrych arno'n fynych er mwyn sicrhau nad yw pryfed winwns wedi ymosod arno. Dylid cadw'r gwely yn rhydd o chwyn, er mwyn sicrhau fod y rhinwedd i gyd yn mynd i'r winwns. Dylid cael gwared ag unrhyw rai sydd wedi mynd i had.

Gan Hywel Jones o bapur bro Y Lloffwr.


Llyfrnodi gyda:

91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.