Mae angen rhoi sylw arbennig ar 诺yl y Pasg i Flodyn y Dioddefaint a adnabyddir fel y 'Passion Flower' (Passifloraceae.)
Yn 么l chwedl, yr oedd yna offeiriad Catholig o'r enw Emmanuel de Villegas yn byw yng ngwlad Peru, tua 1610, ac yn arbenigwr ar dyfu'r blodyn arbennig yma. Rhyw noson cafodd weledigaeth ac yn y profiad hwnnw sylweddolodd fod gan y planhigyn yma ystyr. Cysidrai fod ynddo arwyddion i'w cyffelybu a chroeshoeliad Crist. Aeth ati i arlunio gwahanol ddarnau o'r blodyn i'w gosod mewn llyfr.
72 edefyn rheidiol porffor yn dynodi Y Goron Ddrain yn cynnwys 72 o ddrain pigog.
3 stigma ar y top yn dynodi'r Atgyfodiad ar y trydydd dydd.
5 brigell (anthers) yn dynodi 5 clwyf. Y rheswm pam fod rhai Pabyddion yn galw'r blodyn yma "The flower of the five wounds".
"Style", yn dynodi y sbwng a lanwyd 芒 finegr a'i ddefnyddio i wlychu gwefusau Crist.
Blaen y dail yn dynodi blaen cleddyf y canwriad.
Smotiau coch fel arwydd o ddiferion gwaed Crist.
Yr arogl, sef arogl y sbeis a gafodd ei baratoi gan y gwragedd ar gyfer yr eneinio.
Pump petal a phum sepal yn dynodi y deng disgybl gan anwybyddu y ddau arall, oherwydd i Judas Iscariot fradychu Crist, a Simon Pedr yn gwadu Crist.
Mae 33 o smotiau o liw arian tywyll o dan y dail i'n hatgoffa o'r 33 darn arian a dalwyd i Judas Iscariot am fradychu Crist. 33 hefyd oedd oed Crist pan y bu farw.
Dim ond am un diwrnod mae'r blodyn ar agor sef, yr amser y bu Crist yn hongian ar y groes. Nid yw'r petalau yn cwympo o'r planhigyn, ond mae yn ail gau dros yr ofari yn symbol o'r doethineb cuddiedig o fewn dirgelwch y Groes. Gall hefyd olygu Crist yn ei feddrod.
Ceir rhai petalau gwyn i nodi purdeb Crist.
Y dail cledrog yn debyg i ddwylo erlynwyr Crist.
Y cordyn tendril "cord of clinging tendrils", yn dynodi chwip a ddefnyddiwyd i fflangelli Crist.
Yn olaf, y ffrwyth crwn o si芒p 诺y. Mae hwn yn cynrychioli'r byd, a addawodd Crist fel iachawdwriaeth i'w holl o'i ddilynwyr. Mae 诺y yn symbol o enedigaeth, ac ail enedigaeth dyn. Dywed un chwedl bod i'r Forwyn Fair roi wyau i'r milwyr ger y Groes, gan apelio arnynt i fod yn fwy tyner tuag at Crist. Yn ei galar disgynnodd dagrau ar yr wyau ,gan greu smotiau ar y plisgyn 诺y.Cymhariaeth Emmanuel de Villegas o rannau o'r blodyn 芒 Chroeshoeliad Crist
Tua 1620 fe aeth rhai o'i ddisgyblion ar bererindod i Rufain gan gario'r llyfr darluniau a rhai o'r planhigion. Dyma oedd cychwyn ar dyfu'r blodau yn Ewrop. Math gorau Emmanuel de Villegas o'r planhigyn oedd y Passiflora Caerulea, ac fel mae'n digwydd, hwn yw'r un mwyaf poblogaidd a dyfir ym Mhrydain heddiw.
Wedi ei sefydlu yn Ewrop, rhoddwyd gwahanol enwau iddo. Roedd hyn yn bennaf, oherwydd y cysylltiad cysegredig, yn enwedig gan y Pabyddion selog, pybyr. Dewiswyd enwau fel Jesus Leeden (Jesus Passion), Christos Strauss (Christ Bouquet), Hierba Cruz (Herb of the Cross), Dorne Krone (Crown of Thorns), a Muttergottes Schurzchen (Mother of God's Star).
Yn ei lyfr yr oedd Emmanuel wedi nodi cymhariaeth, drwy ei ddarluniau, o rannau o'r blodyn 芒 Chroeshoeliad Crist.
Mae'r planhigyn yn perthyn i deulu'r winwydden. Fe all dyfu hyd at 16 troedfedd. Os am geisio ei thyfu rhaid gwneud rhwyd nylon neu drelis, er mwyn ei diogelu rhag y gwynt. Syniad arall yw ei blethu drwy ddefnyddio tyfiant troellog y tendrils o amgylch gwifren mewn si芒p cylch, i wneud torch. Rhydd hyn elfen o goffadwriaeth croeshoelio Crist.
Mae'r Passiflora Caerulea yn flodyn prydferth o liw glas, phorffor a gwyn. Gan ei fod yn hawdd ei dyfu, gellir ei dyfu yn yr awyr agored, ac fe flodeua yn gyson o ganol haf hyd at ganol hydref.
Dylid ei dyfu mewn pot, 9 modfedd diamydr, yn cynnwys gwrtaith John Innes Rhif 3. Er mwyn tyfiant llwyddiannus, dylid plannu tri gwreiddyn gyda'i gilydd i greu sefyllfa gyfyng yn y pot, er mwyn sicrhau digonedd o flodau o ansawdd da drwy'r tymor. Dylid ei osod yn erbyn mur sydd yn wynebu'r de, gan obeithio iddo gael o leiaf 5 awr o haul, a thymheredd oddeutu 21 gradd Celsius yn gyson. Oherwydd ei daldra tebygol byddai llecyn gweddol gysgodol yn ei ddiogelu rhag y gwynt.
Mae angen dyfrhau yn rheolaidd o'r gwanwyn hyd ddechrau'r hydref, gyda d诺r yn cynnwys gwrtaith sydd yn uchel mewn Nitrogen a hynny yn gynnar yn nechrau'r tymor ymlaen at adeg y blodeuo. Wedyn defnyddio un sydd yn uchel mewn Phosphate am weddill y tymor. Mae'n holl bwysig i ail botio'r planhigyn bob dwy flynedd ym mis Chwefror, yna ei osod mewn lle oeraidd er mwyn i'r gwreiddiau gael digon o amser i sefydlu'n foddhaol.
Mae'r planhigyn yn agored i ymosodiad gan bryfed fel chwilen werdd (greenfly), a speidr coch, felly dylid defnyddio hylif yn rheolaidd i'w hatal. Dylid ei dorri yn 么l ddiwedd hydref, i tua 6 modfedd er mwyn i'r planhigyn gael gorffwys, mae hyn yn ei sbarduno i flodeuo yn ei holl ogoniant y flwyddyn nesaf.
Os am ychwanegu eich stoc, gellir hau had mewn blwch yn cynnwys gwrtaith John Innes Rhif 1, a'i gosod ar fwrdd cynnes (21 gradd Celsius) i egino diwedd mis Ebrill, neu fe ellir cymryd toriadau o'r stem a'i gosod mewn compost gwreiddio toriadau ym mis Gorffennaf. Pan fydd arwydd o'i fod yn gwreiddio rhaid ei draws blannu i bot 3 modfedd diamydr, yn cynnwys John Innes Rhif 2.
Fel canlyniad dylai fod gennych ddigon o stoc ar gyfer y flwyddyn nesaf. I rywun 芒 digon o amynedd, mae yn bosib ychwanegu at y stoc drwy haenu'r winwydden mewn gwrtaith. Pan fydd gwreiddiau eilradd dylid ail botio mewn potiau 3 modfedd diamydr.
Mae'r planhigyn yn cynhyrchu ffrwyth o si芒p 诺y, yn addas ar gyfer G诺yl y Pasg. Mae ei liw yn oren golau. Gellir ei fwyta ond siomedig yw o ran ei flas. Er hynny, syniad gwych y Pasg eleni, fyddai rhoi'r planhigyn arbennig yma yn anrheg, yn lle'r 诺y Pasg arferol.
Gan Hywel Jones i bapur bro Y Loffwr.