91热爆

Garddio: Mehefin

Moron

Gwyn Evans o bapur bro Y Ddolen sydd yn rhoi cyngor i ni ar arddio ym mis Mehefin.

Mae rhan fwyaf o'n gerddi erbyn hyn yn dra sefydlog ac o hyn allan bydd aml i broblem yn codi boed yn haint neu yn glefyd. Un broblem sydd yn codi yn flynyddol i rai o'n garddwyr yw'r pryfyn sydd yn amharu ar wreiddiau'r moron (carrot root fly). Pryfyn dinistriol iawn yw hwn a gall hefyd amharu ar 'celery', panas a parsli.

Mae'r pryfyn yma yn byw dros y gaeaf fel pelydren neu bothell yn y pridd ac mae'r pryfyn hyn yn dod i'r golwg dechrau mis Mehefin ac mae yn dodwy wyau ger eich moron a phlanhigion eraill.

Mae'r cynrhon sydd yn dod allan o'r wyau yn mynd yn syth i'r gwreiddiau ac yn bwydo ar y gwreiddiau a tua mis o amser ac wedyn yn hedfan i ffwrdd am tua mis o amser.

Mae'r genhedlaeth nesaf o bryfyn yma yn eich taro dechrau mis Awst ac mae'r genhedlaeth yma yn fwy dinistriol gan bod eich moron wedi tyfu yn enfawr erbyn hyn.

Beth yw'r ateb tybed? I leihau nifer o'r pledrennau yma sydd yn byw yn y pridd dros y gaeaf gwaredwch a llosgwch yr holl blanhigion sydd wedi diodde. Codwch foron glan ym mis Tachwedd a'u storio. Peidiwch gadael moron yn y pridd dros y gaeaf - mae hyn yn helaethu'r pledrennau ac yn creu problemau mawr y tymor nesaf.

Hefyd pan fo'r planhigion yn ieuanc ym mis Mai ac eto i'r cnwd sefydlog ym mis Awst rhowch 'derris dust' pob ochr i'r rhesi i rwystro'r pryfyn hyn i ddodwy ac i ladd y cyndron cyn atal y gwreiddiau.

Mae dau fath o bryfed sy'n boenus i'r garddwr - y rhai sydd yn ddinistriol o dan y pridd fel rwyf wedi pwysleisio'n barod a hefyd y rhai goruwch y pridd fel y pryfyn gwyrdd a'r pryfyn du a'r pryfyn gwyn. Gall rhain daro ar unrhyw blanhigyn ond cymerwch olwg manwl ar eich rhosynnau a'r lupins a'r ffa lle mae yn dueddol i daro rhan amlaf. Chwistrellu ag 'insecticide' yw'r ateb i waredu rhain ac nid oes eisiau i'r d么s fod yn orgryf.

Problem arall yn y byd bresych yw'r 'caterpillars'. Maent hefyd yn hoffi rhai blodau fel y nemisia. Mae tua phumdeg o wahanol fathau o'r pryfyn yma ym Mhrydain. Rhai yn byw yn y pridd eraill yn tyllu i mewn i ffrwythau ond y rhan fwyaf yn bwydo a'r ddail. Rhain i gyd yn cael eu creu gyda gwahanol fathau o 'moths' ac Ieir Bach Yr Haf.

Y rhai mwyaf ffwdanus yw'r rhai sydd yn byw yn y pridd ac yn bwydo ar wreiddiau unrhyw blanhigyn. Gall cynrhon y 'swift moth' fel esiampl fwydo ar wreiddiau llwyn ifanc fel y fuchsia a'i ladd yn gyfangwbl.

Mae'r moths yma yn ei gogoniant liw nos ac yn cyflawni eu gweithred yr un amser. I blanhigion mewn potiau allan yn yr awyr agored rhowch 'derris dust' ar waelod gwely'r pot drwy gydol yr haf ar hydref, i rwystro'r rhain i ddodwy ac i ladd y cynrhon.

Yn y byd bresych rhowch sylw i'r gleren wen sydd yn hedfan o amgylch adeg hyn o'r flwyddyn. Hi sydd yn dodwy wyau ar eich bresych ac yn creu y 'caterpillars' i fwydo ar ei dail. Chwistrellu gyda rhyw fath o 'insecticide' yw'r ateb eto ond y ffordd orau yw rhoi 'netting' dros eich bresych i gadw'r gleren draw yn gyfangwbwl.

Am y tro rwyf wedi s么n am rai o'r pryfed glll fod yn boen. Mae eraill, a chaf y fraint o helaethu arnynt yn y cyfrolau nesaf. I'r garddwyr a'r darllenwyr oll, am y tro pob bendith.

Gwyn Evans o bapur bro Y Ddolen


Llyfrnodi gyda:

91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.