Dros yr haf, mae'n si诺r i chi gael llawer o bleser a mwynhad wrth edrych ar y gwahanol liwiau fu'n harddu'r ardd. Yn yr Hydref beth am dalu'n 么l i'r dahlia a rhoi chware teg haeddiannol iddo a'i roi i gysgu'n ddiogel.
Erbyn hyn mae'r rhan fwyaf o ardaloedd wedi cael nosweithiau o rew. Dim ond un noson o rew sy'n angenrheidiol wrth gynhaeafu dahlia a'u paratoi ar gyfer eu storio dros y gaeaf. Un arwydd fod y dahlia'n barod yw pan welwn y gwrysg wedi troi yn frown. Fe gymer hyn le ymhen tri neu bedwar niwrnod ar 么l cael y rhew. Pwrpas hyn yw aeddfedu'r tiwber i'w ddiogelu rhag crebachu yn ystod y gaeaf. Os bydd i'r dahlia ei storio cyn aeddfedu mae'n debycach o grebachu a phydru'n gyfangwbl.
Mae'n bwysig bod yn ofalus iawn wrth ei godi o'r pridd. Yn gyntaf rhaid torri coes y tiwber tua phedair modfedd o wyneb y pridd gan ddefnyddio fforch neu bal. Er mwyn sicrhau na fydd difrod i'r tiwber dylid palu tua troedfedd oddiwrth ei ganol. Wedi ei ryddhau o'r ddaear dylid ei ysgwyd yn ofalus gan ddiogelu'r gwddf a chael gwared o'r pridd. Os digwydd i'r pridd fod yn gleuog gellir golchi'r pridd ymaith gyda phibell ddwr. Rhaid fydd troi y tiwber a'i ben i wared er mwyn i'r dwr ddiferu ohono.
Dylid gadael y tiwber allan yn yr awyr agored ac mewn man cysgodol heb fod yn yr haul am y byddai heulwen yn peri i'r tiwber i felynnu gan ei adael yn agored i glefydau, ac yn y diwedd, efallai, bydru. Pan fydd y croen wedi sychu ymhen diwrnod neu ddau gellid eu gosod, pen i wared, mewn bocsys carbord neu rai pren wedi eu leinio 芒 thrwch o bapur newydd. Ni ddylid ar unrhyw gyfrif eu gosod mewn bocsis plastic neu sach 'polythene' gan y byddai hyn yn peri lleithder ac yn y diwedd y tiwber yn pydru.
Dylid labeli pob tiwber gyda'i enw priodol fel y gellir eu hadnabod yn y gwanwyn. Ar 么l eu gosod yn y bocsys rhaid eu gorchuddio a blawd llif, mawn a swlffwr melyn (yellow sulphur) sy'n diogelu rhag ffyngau. Gosodwch y bocsys mewn lle sych mewn tymheredd cyson o 5-9 Celsius yn ddiogel rhag y rhew. Syniad da fyddai cadw llygad arnynt bob rhyw dair wythnos ac os ceir fod un neu ddau yn dechreu pydru dylid eu taflu allan Os gwnewch y cynhaeafu fel hyn fe fyddwch yn fwy tebygol o gael gardd flodeuog yr haf nesaf!
Gan Hywel Jones i bapur bro Y Loffwr.