Cyhoeddodd rai cannoedd o ysgrifau mewn amryfal gylchgronau a phapurau newydd ar hyd y blynyddoedd ac 'roedd yn awdur nifer o lyfrau pwysig. Yn eu plith Tonau a'u Hawduron (1967'), Canu'r Bobol (1978) a Taro Tant (1994) Bu hefyd yn ddarlledwr achlysurol ar radio a theledu, ac yn golofnydd cerdd wythnosol i'r Cymro a'r Goleuad ar wahanol gyfnodau.
Er ei fod yn frodor o Fôn, ac wedi treulio'r blynyddoedd diwethaf ym Mangor, 'roedd i Huw gysylltiadau agos iawn ag ardal Y Glannau. Daeth i fyw i Dreffynnon yn syth o Goleg Cartrefle, Wrecsam ym mis Medi 1949, gan ddechrau dysgu yn Ysgol Merllyn, Bagillt ac Ysgol Ramadeg Treffynnon.
Fe'i penodwyd yn athro Cymraeg Ysgol Dinas Basing, Treffynnon ym mis Ionawr 1954, a threuliodd flynyddoedd hapus yn athro Cymraeg a Hanes yn yr ysgol honno, hyd nes iddo ymddeol yn gynnar yn Ionawr 1968 i ganolbwyntio ar ymchwilio, llenydda a darlledu. Treuliodd dymor hefyd yn 1965 yn brifathro Ysgol Gynradd Trelogan.
Yn ei dro, bu'n Ysgrifennydd Urdd Siarad Cymraeg dros Sir y Fflint (1951- 3), yn Ysgrifennydd (1953-6) a Llywydd (1956-7) Cymdeithas Cymrodorion Treffynnon, ac yn Ysgrifennydd ardal Treffynnon o'r Ymgyrch Senedd i Gymru (1953-5), gan chwarae rhan amlwg ym mywyd Cymraeg yr ardal.
Bu'n cynnal dosbarthiadau nos poblogaidd ar y Gymraeg ac ar hanes lleol yn Ysgol Dinas Basing yn ystod y pumdegau, a llwyddodd i gyfuno gwaith athro prysur a gwaith y llenor, y darlithydd, y beirniad eisteddfodol a'r newyddiadurwr.
Awdur toreithiog
Ymddiddorodd mewn hanes lleol, a chyfrannodd gyfres wythnosol - 'Glimpses of old Holywell (and district)' am 52 rhifyn i'r Flintshire County Herald yn 1955, gan ennyn clod Syr Goronwy Edwards o'r Gymdeithas Hanes Frenhinol yn sgil hynny.
Lluniodd ddwy gyfrol boblogaidd ar enwogion y sir, sef They Lived in Flintshire (1960) ac Enwogion Sir y Fflint (1964). Fe'i cofir yn yr ardal hon hefyd am ei gyfrolau ar David Lloyd (1912-1969): llais a hudodd genedl (1985), a Thomas Lloyd Jones (Gwenffrwd) 1810-1834 (1989).
Ef oedd awdur yr ysgrif ar Feirdd a llenorion Sir y Fflint a gyhoeddodd dan enw M- J. Jones yn Rhaglen Cyhoeddi Eisteddfod y Fflint 1969 (ac a ailgyhoeddwyd yn Cyfaredd y Broydd, Detholiad o Raglenni Eisteddfodau'r Gogledd yn 1978.)
Symudodd Huw i fyw i Ffordd Trefor, Prestatyn ym mis Gorffennaf 1967, a bu'n aelod gweithgar o Blaid Cymru yn lleol, ac yn Is-lywydd (1960-1) a Llywydd (1961-2) Cymdeithas Cymrodorion Prestatyn.
Priododd Olwen Pearson o Fostyn ym mis Chwefror 1966, a bu'r ddau ohonynt yn aelodau ffyddlon o Gapel Rehoboth, Prestatyn, cyn symud o'r ardal i Fôn ym mis Gorffennaf 1971, a hynny'n dilyn y brofedigaeth lem o golli eu plentyn cyntaf, Huw Meilir, flwyddyn ynghynt.
Cydnabyddwyd gwasanaeth enfawr Huw Williams i'w genedl gan yr Urdd Er Hyrwyddo Cerddoriaeth Cymru, Gorsedd y Beirdd, a Phrifysgol Cymru, ac roedd yn un o Gymrodyr Cymdeithas Emynau Cymru.
Bu farw yn Ysbyty Gwynedd, Bangor ar Orffennaf 28, a'i gladdu ym Mryn-du, Môn, y pentref lle cafodd ei fagu ar Awst 1.
Mae'n gadael gweddw, Olwen, mab Maredudd, a brawd, William.
Gan: Maredudd, y mab