Aeth pethau o ddrwg i waeth rhwng y ddwy garfan. Dyma adroddiad Huwco Penmaen am John Brereton y teiliwr a Robert Williams y pobydd (y ddau o blaid y Gymraeg) yn ymgiprys i Dafydd Lewis (argraffwr), a oedd 'o'r ochr arall': Yr oedd Mr. Lewis i bregethu un Sul, pan geisiai y teiliwr ei rwystro i ddringo grisiau y pulpud. Faint bynnag o bennau oedd i'w bregeth y tro hwnnw, nid oedd yr un gynffon i'w got, oherwydd daeth honno i ffwrdd yn llaw y teiliwr. Buasai yn ddiddorol i gael gwybod a gafodd Mr. Brereton y ,job' o'i phwytho.' 'English Services' Ceir cip ar yr ochr arall i'r anghydfod yn 'Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru', cyfrol IV (1875) gan Rees a Thomas. Adroddir mai ymhlith y 'Saeson' bu'r cynnydd mwyaf ar ôl dyfodiad Mr Francis. Nhw gafodd gapel newydd Queen Street bore a hwyr yn yr haf, gan ddadlau mai iddyn nhw y'i codwyd a bod ymwelwyr yn cyfeirio'n fynych at yr hysbysfwrdd a gyhoeddai 'English Services' ar nos Sul yn yr haf. Aeth pethau o ddrwg i waeth, er gwaethaf ymgais i gymodi, ac o ganlyniad, yn ôl Huwco Penmaen: '[bu i] Mr Francis gael y capel un Sabboth wedi'i gloi yn ei erbyn. Aeth i'r Town Hall i gynal yr achos yn Saesneg yn benaf, ac yn fuan iawn ymroddodd yn gyflawn i lafurio yn mysg y Saeson.' Capel Newydd Dyna ddechrau achos Christ Church o ddifrif, ac agorwyd yr addoldy cyntaf yn dwyn yr enw hwnnw ym 1858. Ymhlith yr aelodau cynnar oedd y Dafydd Lewis y soniodd Huwco Penmaen amdano a Mr a Mrs J. Rhydwen Jones. Dyna ddau enw amlwg ym mywyd masnachol y dref, y naill yn a'r llall i siop ddodrefu Rhydwen Jones & Davies. Ym 1973 unodd y rhan fwyaf o'r eglwysi'r Congregational Union of England and Wales a 'r Presbyterian Church of England i ffurfio enwad newydd yr United Reformed Church, a Christ Church yn eu plith. Bu Capel Cymraeg Queen Street yn gysylltiedig ag Annibynnwyr Cymru ar hyd ei oes, yn dwyn yr enw 'Carmel' o 1901 hyd nes iddo gau ym 1992. Ymhen cant a hanner o flynyddoedd mae'r ffrae iaith wedi'i hen anghofio. Mae pedwar o bob pump o aelodau Ysgol Sul Christ Church yn mynd i Ysgol Dewi Sant neu Ysgol Glan Clwyd - a Bethan a Ben, plant y Gweinidog presennol, y Parchedig Simon Walkling, yn eu plith. Pan ddatgorfforwyd Carmel gan y Dr R Tudur Jones (un o blant yr Eglwys), aeth y gynulleidfa i Ysgoldy Christ Church am de. Ac ymhlith dathliadau Christ Church eleni bydd Cymanfa Ganu ddwyieithog. Beth fyddai Huwco Penmaen, John Brereton. Robert Williams a Dafydd Lewis wedi meddwl am hyn oll? Philip Lloyd
|