Dydd Sadwrn, yr ail o Ebrill, caeodd Dafydd Timothy ddrws Siop y Morfa am y tro olaf wedi bron i ddeg mlynedd ar hugain o wasanaeth gwerthu llyfrau a nwyddau Cymreig. Dechreuodd yn Stryd Fawr Rhuddlan ac yna yn Stryd Fawr Y Rhyl. Yn wir dyna ddiwedd pump cenhedlaeth o wasanaeth un teulu ar y Stryd Fawr yn Y Rhyl - bu i'w dad Owen Timothy fod â siop fferyllydd ar draws y ffordd lle mae banc Barclays heddiw, a'i daid cyn hynny. Bu hefyd i'w ewythyr fod yn cadw siop esgidiau ar y safle.
Bu Dafydd nid yn unig yn gwerthu nwyddau dros y cownter ond mae galw mawr am lyfrau ail law mae yn eu gwerthu dros y we, a bwriada ddal ati i gyflawni'r angen yma i'r dyfodol.
Dywed Dafydd, a dynnodd sylw'r cyfryngau cenedlaethol at y rhesymau am gau'r drws, fod busnesau bach ynghanol y trefi yn dioddef yn enbyd oherwydd y ffordd newydd mae Treth y Cyngor wedi chwyddo'r costau ar fusnesau o'r fath. Mae llai o arian i brynu llyfrau i'r llyfrgelloedd ac fel mae patrwm prynu a darllen wedi newid, nid yw pobol yn treulio amser yn darllen fel o'r blaen.
Rhaid gofyn erbyn hyn, beth fydd hanes canol ein trefi? Nid yn unig Y Rhyl, ond ym mhobman gwelwn siopau yn cau ac yn symud allan i'r cyrion ac yn amddifadu y rhai bychain o'r torfeydd a arferai dyrru yno. Yn wir, cawn glywed clochdar ein cynulliad Cenedlaethol am grantiau helpu busnesau bach i sefydlu a chael eu traed danynt, ond beth am y rhai sydd yn bodoli ac yn methu â chario ymlaen oherwydd y wasgfa ariannol o du'r sefydliadau cyhoeddus.
Wrth i Dafydd dorri cwys newydd yn ei hanes rhaid sylweddoli mai dyma'r unig siop yn y dref ble y gellid cael, nid yn unig lyfrau a chylchgronnau Cymraeg, ond hefyd nwyddau o Gymru ar gyfer ymwelwyr. Mae digon o nwyddau 'Cymreig' ar gael ond o ble, gallwch ddychmygu!
Bu Siop y Morfa yn gyfrwng o gefnogaeth i gymaint o'n papurau bro yn Nyffryn Clwyd yn enwedig Y Glannau. Chwith heddiw yw gweld un arall o'r siopau a fu â drws yn agored ers blynyddoedd ar gau. Diolchwn i Dafydd am ei wasanaeth i'r fro Gymreig, am hyrwyddo Cymreictod a thynnu sylw'r cannoedd o ymwelwyr i'r ffaith eu bod yng Nghymru.
Gobeithio y sylweddola'r awdurdodau yr angen am gefnogaeth i'r busnesau bychain fel Siop y Morfa a gyflawnodd gymaint i hyrwyddo ein diwylliant ar hyd y blynyddoedd.
|