91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Glannau
Eleri Earnshaw Hanes Eleri Earnshaw
Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un brysur iawn i mi, oherwydd y pêl-droed a gwaith ysgol.
Ar ôl methu tair wythnos ar ddechrau Blwyddyn 11 yn Ysgol Glan Clwyd oherwydd y teithiau i Wlad yr Iâ ac Iwerddon gyda thîm pêl droed merched Cymru dan 18, roedd gennyf lawer o waith i'w wneud. Yr un oedd y sefyllfa unwaith eto y flwyddyn hon, ond y tro yma roedd y drefn ychydig yn wahanol.

Ar Fedi 3ydd cymerais y cam o adael fy nghartref, fy nheulu, fy ffrindiau a chlwb pêl-droed merched dinas Bangor, er mwyn ymuno â'r Arsenal Ladies' Academy yn St. Albans.

Dewis o gannoedd o ymgeiswyr
Cefais fy newis, ynghyd â 24 o ferched eraill, allan o gannoedd o ymgeiswyr o bedwar ban y byd (gan gynnwys Siapan!) dros ddwy set o dreialon a chyfweliadau.

Ar ôl derbyn y llythyr, yn hysbysu'r ffaith fy mod wedi cael fy newis i fynychu'r Academi, es ati i ddilyn rhaglen ymarfer dwys dros fisoedd yr haf.

Yna daeth yr amser i mi adael. Dros y ddwy flynedd nesaf St Alban's fydd fy nghartref. Yna mi fydda i'n dilyn cwrs BTEC gwyddoniaeth chwaraeon (sy'n gyfystyr â Lefel A) yng ngholeg Oaklands yn ystod oriau'r bore, ac yna'n hyfforddi ar gaeau gorau Ewrop yn y prynhawn.

Ychydig wedi cychwyn daeth yr amser i mi a dwy Gymraes arall (Kelly Davies a Joanna Price) adael ar daith i Slofenia gyda thîm pêl-droed Cymru dan 19 ar gyfer rownd gyntaf Cwpan Ewropeaidd merched dan 19.

Sgorio gôl dyngedfennol
Ar ôl sgorio'r gôl dyngedfennol, bedair munud cyn terfyn y gêm gyntaf yn erbyn Slofenia, roedd y rhagolygon o gyrraedd yr ail rownd yn edrych yn ffafriol.

A chyrraedd yr ail rownd a wnaethom ni ar ôl curo Estonia ddeuddydd yn ddiweddarach. Yng ngwlad Pwyl bydd timau gwlad Pwyl, Slovakia a'r Iseldiroedd yn aros amdanom ni.

Wedi mis yn ôl yn St. Alban's roedd Budgoszg (rhanbarth gogledd-orllewinol gwlad Pŵyl) yn galw. Yn anffodus, wyth diwrnod yn ddiweddarach, roeddem yn teithio yn ôl i Lundain heb allu edrych ymlaen at y rownd nesaf a oedd i'w gynnal yn yr Eidal.

Gwaith cwrs yn aros
Pedwar darn o waith cwrs oedd yn ein croesawu yn ôl yn yr Academi - ar ôl bod yn teithio am bedair awr ar ddeg.

Cafodd yr un drefn arferol ei ailosod yn fuan wedi cyrraedd adref. Coleg yn y bore, pêl-droed yn y pnawn.

Caiff y cwestiwn 'dwyt ti byth yn diflasu ar bêl-droed?' ei ofyn yn rheolaidd. Yr ateb yn gyson ydy 'nac ydw' gan fy mod yn cymryd cam anferth tuag at fy uchelgais o chwarae'n broffesiynol yn U.D.A.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý