Roedden nhw yn ymuno ag ysgolion ledled y wlad wrth iddyn nhw gymryd rhan yn y Diwrnod ar gyfer Newid UNICEF - Diwrnod Gwisg Anffurfiol Cenedlaethol. Dyma un diwrnod yn y flwyddyn lle mae disgyblion yn gallu gwisgo unrhyw ddillad y maen nhw'n ei ddewis - o ddillad pêl-droed i wisg ffansi. Wrth wneud hynny, roedden nhw yn codi arian i newid bywydau plant ym Mrasil a Bangladesh, ac wrth gwrs i ni yn Ysgol Glan Clwyd sydd â chysylltiad ag ysgol yn Nepal, roedd hanner arian a godwyd yn mynd tuag at brynu deunyddiau addysgol i'r ysgol honno. Dod â gwell byd i blant y byd Yn ystod yr wythnos hefyd roeddem yn rhoi pwyslais arbennig yn ein gwasanaethau boreol ar waith UNICEFyn ceisio dod â gwell byd i filiynau o blant drwy'r byd. Ym Mrasil a Bangladesh, mae UNICEF yn ceisio achub plant rhag tlodi a rhoi addysg iddyn nhw. Oherwydd tlodi ym Mrasil mae nifer blant ar y strydoedd lle maen nhw mewn perygl beunyddiol. Ym Mangladesh mae nifer o deuluoedd mor dlawd fel bod y plant yn gorfod gweithio i ychwanegu at incwm y teulu. Mae miliynau o blant yn y ddwy wlad, yn ogystal ag yn Nepal, yn colli'r cyfle i gael addysg o ganlyniad i hyn. Cymorth UNICEF i fynd i'r ysgol Un o'r plant yma yw Simone o Frasil sydd yn 10 oed. Roedd hi'n arfer gweithio ar stondin fwyd mewn stryd beryglus a bu'n rhaid iddi roi'r gorau i fynd i'r ysgol er mwyn ennill ychydig o arian ychwanegol. Gyda chymorth UNICEF, mae'n mynd i'r ysgol lle mae'n dysgu darllen ac ysgrifennu. Ar y cychwyn, roedd hi'n ofnus, ond roedd dosbarthiadau sgiliau syrcas arbennig UNICEF - a ddefnyddir i annog plant fel Simone i fynd i'r ysgol - yn rhy gyffrous i'w colli! Erbyn hyn mae Simone yn mynd i'r ysgol bob dydd ac mae'n dysgu'r sgiliau angenrheidiol i gymryd rheolaeth dros ei bywyd ei hun. Gyda chefnogaeth ysgolion fel Ysgol Glan Clwyd mae UNICEF yn gallu cynnig cyfleoedd y maen nhw yn eu haeddu i ragor o blant ym Mrasil, Bangladesh a Nepal. Casglwyd £250 i gefnogi gwaith UNICEF ym Mrasil a Bangladesh a £250 i gefnogi'r ysgolion yr ydym wedi cysylltu â nhw yn Nepal.
|