Cynhaliwyd nifer fawr o atyniadau cymdeithasol i godi'r arian ac un ohonynt oedd Rali Hen Beiriannau ar dir Roe Parc yn Llanelwy. Oherwydd fy niddordeb mewn hen dractorau a pheiriannau roedd wedi bod yn uchelgais gennyf ers rhai blynyddoedd i drefnu Rali o'r fath ac o'r diwedd daeth y cyfle ac roedd y Pwyllgor Apêl yn gefnogol iawn i'r syniad er nad oedd gan yr un ohonynt syniad beth yr oeddwn yn ymrechu i'w wneud.
Y cam cyntaf oedd cael caniatad Cyngor Tref Llanelwy ac wedi ysgrifennu llythyr at y clerc cefais wahoddiad i roi fy syniadau o flaen aelodau'r Cyngor. Roedd y profiad yn debyg iawn i gyfweliad am swydd ond cefais eglurhad ganddynt am y rheolau a oedd ynghlwm â chynnal unrhyw ddigwyddiad ar dir Roe Parc. Er enghraifft, doeddwn i ddim yn cael defnyddio'r cae i barcio ceir yr ymwelwyr a hwn oedd y rhwystr cyntaf o lawer. Er nad oeddent yn deall yn llwyr beth oeddwn am ei wneud roeddent yn weddol gefnogol i'r syniad a chefais wahoddiad i'w hail gyfarfod pan oedd gen i gynlluniau mwy pendant.
Gan fy mod yn aelod o ddwy gymdeithas hen beiriannau roedd gen i lawer o gysylltiadau a doedd cael pobl i ddod i arddangos eu tractorau ac ati ddim yn broblem ond roedd yn rhaid creu ffurflen gofrestru gydag amodau yswiriant ac yn y blaen arni. Roedd angen trefnu "public liability insurance", bwyd i'r cyhoedd, argraffu catalog a phosteri, cael ffair i'r plant, a rhywle i barcio'r ceir.
Ar ôl misoedd o waith roeddwn mewn sefyllfa i fynd yn ôl at y Cyngor. Unwaith eto roeddwn o flaen y pwyllgor llawn. Teimlwn y tro yma fy mod yn gallu rhoi gwell syniad o'r diwrnod a'r trefniadau, ac roeddent yn gefnogol iawn gan ddweud y buasai yn beth da iawn i'r dref.
Erbyn diwrnod y Rali roeddwn wedi cael amrywiaeth o atyniadau yn cynnwys hen dractorau wrth gwrs ac injan ddyrnu yn cael ei throi gan dractor Marshall. Roedd nifer o hen geir a beiciau modur, injans oel, casgliadau o fodelau a hen gelfi, ac injan stem bach a fu'n cario plant o amgylch y cae drwy'r dydd. Hefyd roedd llawer o stondinau crefftau a chyfle i bobl daflu coets. Yn wir, roedd dros 150 o atyniadau i gyd.
Trefnais i gyhoeddi catalog oedd yn enwi pawb a oedd yn arddangos rhywbeth ar y diwrnod ac ar ôl cael busnesau bach Llannelwy i dalu am roi hysbyseb ynddo, llwyddais i dalu costau argraffu y catalog, y posteri hysbysebu ac yn y blaen gyda ychydig elw ar ôl.
Trefnais fod plac pres gyda logo'r Eisteddfod arno i'w gyflwyno i bawb oedd wedi arddangos yno a hefyd cyflwynwyd un i faer y dref.
Roedd y diwrnod yn llwyddiant, yn ariannol yn ogystal ag yn gyfle i deuluoedd y dref gael diwrnod allan o fewn pellter cerdded i'w cartrefi. Gwnaethom elw o £1200 (er mai 70c oedd tâl mynd ar y cae) ac roedd hyn yn ollyngdod i Eleri a minnau gan ein bod wedi rhoi swm eithaf o arian o'n poced ein hunain i drefnu'r diwrnod.
Gweithiodd aelodau'r pwyllgor Apêl yn galed iawn ar y diwrnod. Roedd rhai yng ngofal y stondin fwyd, rhai yn gwerthu nwyddau'r Eisteddfod ac eraill yn gofalu am y maes parcio tu ôl i syrjyri'r doctor. Y person a ddaeth bellaf i arddangos oedd ffrind i mi, sef Wally Ap Simon o Gaerdydd gydag injan oel ac roedd yn fwy na bodlon i yrru un o'r tri tractor oedd gennyf i yn y sioe.
Yn dilyn llwyddiant y diwrnod gofynnodd y Cyngor Tref i mi drefnu un o 'r fath bob blwyddyn ond gwrthod oedd raid i mi neu mi fuaswn wedi cael ysgariad yn fuan iawn!
Rhywbeth a ddaeth yn amlwg o'r diwrnod hwn oedd bod yna angen cymdeithas yn Nyffryn Clwyd i bobl oedd â diddordeb mewn hen beiriannau, a dyna pryd y sefydlais Gymdeithas Hen Dractorau Dyffryn Clwyd sydd bellach wedi bod mewn bodolaeth am 20 mlynedd. Rydym wedi cynnal cyfarfodydd yn fisol drwy'r gaeaf a hynny drwy'r iaith Gymraeg. Bob blwyddyn mae rhwng 35 a 50 yn ymaelodi ac rydym wedi cynnal 'Diwrnod Troi' bob blwyddyn bron am 19 mlynedd ac wedi rhoi cyfle i'r aelodau a llawer o ddynion a merched o bell ac agos gystadlu gan ddefnyddio hen dractorau ac erydr.
Roedd Pwyllgor Apêl Llanelwy tuag at Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2006 (er nad oedd wedi ei sefydlu ar y pryd!) yn ddigon craff i ymgymryd â'r dasg o baratoi'r bwyd yn Niwmod Trot 2004 a byddant yn gwneud yr un fath eto yn 2005 a thrwy hynny yn chwyddo coffrau Apêl Llanelwy unwaith eto.