91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Glannau
Yn yr ardd
Mae Ionawr yn fis tawel, ond mae yna ddigon i'w wneud yn yr ardd. Darllenwch rai o dips Bryn Williams ...
Am y tro cyntaf ers dros deugain mlynedd, nid wyf wedi bod yn pluo twrcwns at y Nadolig eleni. Llynedd roedd gennym 7,000 i'w pluo!

Er hynny, amser prysur yw'r Nadolig. Yna mis tawel yn yr ardd ond mae digon i'w wneud, sech hynny.

  • Codwch y planhigion mewn potiau oddi ar y llawr ac allan o'u soseri rhag iddynt rewi, a dodwch nhw mewn llecyn cysgodol i gymryd mantais o'r ychydig o heulwen sydd ar gael. Ond rhaid eu cysgodi o'r gwyntoedd oer. Os yw'r planhigion braidd yn dyner, gorchuddiwch nhw mewn 'bubble wrap' neu y cnu-ffug, ond rhaid clymu'r rhain yn ofalus neu fe ânt gyda'r gwynt.

  • Cyweiriwch y ffensys, pyst a threlis. Dyma'r amser i beintio'r waliau a tu ôl i'r dringwyr, yna eu clymu yn iawn wrth eu rhoi yn ôl.

  • Rhaid clymu coed, llwyni, rhosod, brocoli a bresych Brwsel at byst os yw'r gwynt yn eu hysgwyd. Mae hen sanau marched yn wych at y gwaith yma.

  • Rhowch fin ar gyllell y torrwr porfa a rhowch archwiliad i'r peiriannau. Mae pob llyfr garddio yn dweud wrthym am wagáu bob mymryn o betrol allan o'r peiriant dros y gaeaf am ei fod yn hel dwr o'r awyrgylch - ond nid ydynt yn dweud wrthych beth i'w wneud efo'r petrol wast. Mae'n beth peryg ofnadwy, a'r peth olaf ydych eisiau ydyw rhyw hen boteli hanner llawn o hylif dienw o gwmpas y sied.

  • Archebwch eich hadau, tatws Hâd setiau nionod ac unrhyw beth arall sydd yn edrych mor ardderchog yn eich catalog. Os yw'r gwyntoedd oer yn parhau i wneud difrod i'r rhosod neu'r llwyni, tociwch nhw at eu hanner. Tociwch y fuchsias at 1/3.

  • Di-heintiwch botiau a bocsys (Jeyes Fluid ne Citrose.) Taflwch lygad dros y ffrwythau yn y stôr rhag ofn bod rhai yn pydru.

  • Mewn ystafell-haul neu dÅ· gwydr, neu unrhyw fan dan do, casglwch bob deilen a phob blodyn sydd wedi marw a'u dodi yn y tân neu yn y swp compost er mwyn cadw ffwng draw. Am yr un rheswm dodwch y mymryn lleiaf o ddŵr iddynt. Gofalwch chwistrellu yn erbyn yr aphids a'r pryfed gwynion. Newidiwch eich ffwng-laddwyr yn aml. Maent yn datblygu y gallu i wrthsefyll y chwistrellydd os ydych yn defnyddio yr un bob tro.

  • Gellwch hau, mewn tÅ· gwydr di-wres, bys-pêr, nionod y Gwanwyn, ffa, letys a phys a tu allan -ffa, pys, radish a nionod y Gwanwyn - pryd? Unwaith -y gwelwch y chwyn yn blaguro!

    Blwyddyn Newydd Dda i chwi oll.

    Bryn Williams


  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý