Mi gefais gyfle annisgwyl eleni i fynd i sgïo efo ffrindiau am 'chydig ddyddie - trip sydyn go iawn - tair noson a thridie a hanner o sgïo a dim ond cymryd dau ddiwrnod i ffwrdd o ngwaith - grêt!!
Roedd rhai o'r criw wedi bod i Morzine i Chalet Thalassa (neu llle Richard y Post i ddarllenwyr y Glannau) ond hwn oedd y tro cyntaf i mi gael y cyfle i fynd yno.
Gadael y tŷ 4.45 fore Sadwrn, hedfan o Lerpwl i Genefa, awr a hanner yn y bws mini a chael malu awyr efo cyfeillion newydd o Ynys Môn ar y ffordd. Cyrraedd y chalet, sortio'r sgidie a'r sgîs allan a syth at y llethrau erbyn 13.45 - gwych!
Cyn mynd dim pellach, gwell esbonio pwy oedd y criw - Emyr Winllan Bach (neu Emyr Fron Felen), Osian Plas Coch, Sel y Plymar, Haydn Cae Coch, fy nghefnder Emyr Foel Cathau a finne. Roedden ni i gyd wedi bod yn sgio o'r blaen ond roedd yn bum mlynedd ers i mi fod tro diwetha felly gofal oedd pia hi.
Roeddwn yn falch o weld fod Emyr wedi goresgyn ei dueddiad o sgïo ar i lawr i gwrdd y rhai oedd ar y button lifts (canlyniad - pobol yn chwalu i bobman) a hefyd o ddefnyddio byrddau a chadeiriau y bwytai ar y llethrau fel modd o arafu wrth fynd am baned (canlyniad - pobol a llestri yn chwalu i bobman). Na ...y tro hwn, roedd pawb yn cael hwyl go dda arni.
Roedd cael y prynhawn cyntaf i'n hunain yn ffordd dda o cael ein traed oddi tanom ar gyfer y tridie' oedd i ddod. Oedd mi roedd yna adegau pan oedd gwaelod y sgîs yn wynebu'r nefoedd a breichiau a ffyn ymhobman - doedd mynd lawr y moguls o dan y liffts ddim yn beth doeth i wneud ar y diwrnod cyntaf!
Ar ôl noson hwyliog, (yn enwedig ar ôl gwylio'r Alban yn curo Lloegr), a llond bol o frecwast roeddem yn barod am ddiwrnod llawn, ac yn ffodus iawn fod Richard yn medru dod 'efo ni fel guide. Gwnaeth hyn wahaniaeth mawr gan ei fod yn adnabod yr holl ardal eang fel cefn ei law, ac felly roedden ni'n medru gwneud llawer mwy mewn llai o amser. Roedd yn amlwg hefyd fod Richard yn falch o fod ar y llethrau eto ar ôl methu mynd am wythnosau oher¬wydd anaf i'w gefn. Aethom drosodd i'r Swistir a threulio'r rhan fwya o'r diwrnod ar lethrau'r fan honno mewn tywydd gogoneddus. Roedd pawb ar ben ei ddigon.
Roedd mynd yn ôl i'r chalet gyda'r nos yn amser braf - paned a chacen yn ein disgwyl a chael sgwrs gyda chyfeillion newydd am y diwrnod a'n profiadau. Cawod, twb poeth (allan yn yr ardd), lawr i'r dre am beint ac yna'n ôl i'r chalet am swper (oedd bob amser yn wych) - pawb yn bwyta efo'i gilydd, yn cymysgu a chael sgwrs. Yna lawr i'r bar am laeth mwnci, miwsig a dawnsio a malu awyr tan orie mân y bore.
Roedd mynd yn ôl i'r stafell ddiwedd y noson yn gyffredinol ddiniwed, ond un noson bu bron i Sel neidio allan o'i groen pan gafodd hyd yn y tywyllwch, i lwmpyn o hogyn yn cysgu yn ei wely. Mi gafodd hwnnw gymaint o fraw â Sel, ac ar ôl cryn berswâd aeth yn ôl i'w wely ei hun. Roedd yn amlwg wedi cymryd tro anghywir wrth fynd i'r lle chwech! Chwerthin ein hunain i gysgu wnaethon ni'r noson honno.
Roedd y ddau ddiwrnod wedyn yr un mor dda a braf oedd cael cwmni ein cyfeillion newydd o Ynys Môn, Dewi (neu Dewi Aeroplanes fel y cafodd ei enwi ganddon ni). ei fab Dafydd ac Owain ar y deuddydd ola'._ Doedd Owain heb fod yn sgïo ers yn blentyn ysgol ond ga'th hwyl dda iawn arni a phan oedd yn cael chwalfa, ac roedd un neu ddau yn spectacular, roedd yn dystio ei hun i lawr a chario 'mlaen. Star o foi.
Cawsom eira trwm ar y diwrnod ola' oedd yn gwneud am sgïo da iawn.
Mae popeth da yn dod i ben, ac felly pacio ar ôl sgïo'r dydd Mawrth, ffarwelio efo'n cyfeillion, ar y bws mini i'r maes awyr ac adref yn y gwely toc wedi hanner nos.
Dau gwestiwn oedd i'w ateb ar ôl dod adre - Pam mod i wedi gadael hi mor hir cyn mynd is sgïo eto? A gawn ni fynd flwyddyn nesa?!
Diolch i Richard a'i staff am amser gwych ac os ydach chi ffansi trio y sgïo ma ewch yno da chi!
Clwyd Jones, Diserth