Mae'n anodd credu ei bod hi wedi bod yn gyfrifol am golofn y dref yn ddi-dor ers cyfnod o bron i ddeunaw mlynedd. Ynddo'i hun, mae hynny'n deyrnged ac yn glod iddi hi ac yn adlewyrchiad o'r brwdfrydedd a'r dycnwch y mae pawb ohonom yn eu cysylltu â hi. Ganwyd Glenys ym Mherthymaen, ac yn ysgol pentref Trelogan y derbyniodd ei haddysg gynradd. Ar y pryd yr oedd J. Caradog Williams, gwr a fu'n gyfrifol am ysbrydoli a Chymreigio cenedlaethau o blant, yn bennaeth ar yr ysgol honno. Yn dilyn ei chyfnod yn Ysgol Ramadeg Treffynnon, rhoddodd hithau ei bryd ar addysgu a threulio gyfnod fel myfyrwraig-athrawes yn Ysgol Picton ac Ysgol Trelawnyd. Yna, ar ôl derbyn hyfforddiant yng ngholeg Addysg Lincoln, yn 1950 fe'i penodwyd yn athrawes yn Ysgol Llywelyn, Y Rhyl, a oedd bryd hynny yn agor fel ysgol newydd sbon dan arweiniad Mr Vincent Timothy. Bu'n dysgu yno am wyth mlynedd. Priododd yn ystod ei chyfnod yn Ysgol Llywelyn gydag Alun Thomas, cyn ymadael â'i swydd dros dro er mwyn magu ei phlant, Catrin a Rhys. Yn 1968 penodwyd hi'n athrawes yn Ysgol Dewi Sant a threuliodd y gweddill o'u gyrfa yno, ac ymddeol yn 1991. Yn ystod ei gyrfa broffesiynol a'r tair blynedd ar ddeg ers iddi ymddeol, gweithiodd Glenys yn ddiflino dros yr Urdd, gan hyfforddi rhai cannoedd o blant yr ardal hon a rhoi yn hael iawn o'i hamser i hyrwyddo'r diwylliant Cymraeg yn ei holl weddau. Bu hefyd yn Llywydd Cangen Y Rhyl o Ferched y Wawr, yn Llywydd Rhanbarthol y mudiad, a gweithredodd hefyd fel Ysgrifenyddes y gangen. Bu'n flaenores yng Nghapel Stryd Clwyd ers 1991. Wrth i Glenys adael y dref a symud i fyw yng Nghaerdydd er mwyn bod yn nes at ei phlant a'i hwyrion, diolchwn iddi am ei chyfraniad enfawr i'r Glannau a dymunwn yn dda iawn iddi yn ei chartref newydd. Ond peidiwch a bod yn ddiarth, Glenys! Diolch Glenys O gael un fel ein Glenys - un ydyw a'n hudodd mor barchus a'i rhinwedd bod mor raenus un o'r fron na ewch ar frys.
Gweler y gerdd gan Geriant Jones-Evans yn ei chyfanrwydd yn rhifyn Gorffennaf Y Glannau.
|