Daeth i'r Rhyl ym 1854 i wasanaethu'r Annibynwyr (yn Gymraeg ac yn Saesneg eu hiaith fel ei gilydd) a drigai mewn tref ar gynnydd. Gosen, Rhuddlan oedd mam-eglwys Annibyniaeth yn y fro. Fe'i sefydlwyd yn gynnar yn y 1830au. Yna, ym 1839, daeth cynulleidfa fechan ynghyd i fwthyn yn Y Rhyl o'r enw 'Pen y Gyrten'. Safai Pen y Gyrten mewn rhan o'r dref a elwid yn 'Twll Tywod' (ardal Bedford Street/Abbey Street heddiw). Yn ôl Huw Edwards ('Huwco Penmaen'), awdur Hanes Carmel, Y Rhyl, 1839-1927, rhedai ffrwd fechan i'r fan honno o'r Foryd, a byddid yn nofio coed ar hyd-ddi i bwll llifio a iard goed gerllaw.
Y 1840au
Ym 1841 agorwyd capel pwrpasol, gwerth 9200, yn Windsor Street. Sut le oedd Y Rhyl yr adeg honno? Dyma a ddywed Huwco Penmaen:
"Nid oedd ond megis dechrau cael ei phig i mewn fel ymdrochle. Nid oedd yma sôn am dren. Agerlongau oedd yn cludo nwyddau i'r Foryd, a'r "Why Not", Coach Fawr John Roberts y Royal, yn cario nwyddau a phersonau i fyny Dyffryn Clwyd. Nid oed yma heddgeidwad, nac angen am un.
'Gŵr o'r enw Dafydd Williams a wasanaethai fel cwnstabl, 'Town Crier', Teiliwr a Phegiwr Moch. Nid oedd yma Lythyrdy; gwr o'r enw Huw Jones. Mill Bank, ar gefn mul, a gariai lythyrau rhwng Rhyl a Llanelwy. Nid oedd yma Fynwent. Yr oedd nifer y boblogaeth mor fychan, a'r lle mor iach, fel mai anfynych y byddai neb yn marw, a chleddid hwynt yn Rhuddlan.'
Tyndra
Cynyddodd nifer yr aelodau yn Windsor Street, ac ym 1851 agorwyd capel mwy, gwerth 9450, yn Queen Street. Ond erbyn hyn roedd nifer fawr o newydd-ddyfodiaid di-Gymraeg yn eu plith, ac i wasanaethu'r aelodaeth gymysg-ei-hiaith mewn dau addoldy y daeth y Parchedig Francis ym 1854.
Dyma ddisgrifiad di flewyn ar dafod Huwco Penmaen o'r tyndra a gododd rhwng y ddwy garfan parthed defnyddio addoldy Queen Street:
"Cynhelid gwasanaeth Saesneg am ran o'r Sul. Ond o dipyn i beth, y Saeson, yn ôl eu harfer a fynnent gael mwy na'u siâr Yr oedd Aaron Francis o du'r Saeson, a bu yma helyntion blin. Aeth y frwydr mor boeth fel yr oedd ambell un yn bygwth cau dwrn i daro, yn hytrach na phlethu dwylaw i addoli."
[Yn y rhifyn nesaf bydd Philip Lloyd yn cwblhau'r stori drwy sôn am sefydlu Capel Christ Church dan arweiniad y Parch. Aaron Francis]