Sylweddoli gyda braw mai rhybudd am lif arall yw'r sŵn ac atgofion o'r un sefyllfa bron i flwyddyn yn ôl yn rhuthro'n i'r meddwl. Dwy afon bob ochr i'r stryd Codi ar unwaith ac agor y llenni a gweld gyda gofid dwy afon bob ochr i'r stryd a chymdogion yn ceisio atal y dŵr rhag mynd i mewn i'w tai. Gwisgo'n sydyn a sgrialu lawr grisiau a gwthio tyweli a hen blancedi paentio wrth waelod y drws ffrynt. Rhuthro allan trwy'r cefn i'r tywyllwch, y glaw yn tywallt i lawr, a rhedeg nerth fy nhraed heibio cefnau'r tai, heibio'r cae rygbi a throi i mewn i Stryd Mwrog. Cyrraedd y tŷ a gweld gyda rhyddhad nad yw'r dŵr wedi mynd dros riniog y drws eto. Rhedeg wedyn ar draws y ffordd i nôl bagiau tywod a adawyd yno ers y gwanwyn - y rhan fwyaf ohonynt wedi torri ar ôl bod yn sefyllian yno ers misoedd, a'r rhai sy'n gyfan yn rhy drwm imi eu cario (penderfynu bod yn rhaid ffeindio dyn cyn y llif nesaf!) Syrthio i'r dŵr oer, budr Wrth geisio llusgo bag ar draws y ffordd, dyma faglu rhwng y pafin a'r ffordd, (y dŵr wedi gwneud y ddau'n un erbyn hyn) a minnau'n syrthio i mewn i'r dŵr oer, budur - sôn am helynt! Yn ffodus daw un o'm cymdogion ataf i'm cynorthwyo a chludo dau fag a'u rhoi wrth fy nrws cyn mynd yn ôl i arbed y lli o ddrws ei dŷ ei hun. Penderfynu wedyn symud y car sydd wedi'i barcio o flaen y tŷ i'r cefn, cyn rhedeg yn ôl i'r stryd i aros am gymorth dynion y cyngor gyda rhagor o fagiau tywod. Dyma fan y cyngor yn dod i'r golwg yn y man a'r dynion, chwarae teg iddynt, yn gofalu bod bagiau ar gael i bawb. Cyrraedd adref Wedi diogelu'r drws, 'does dim mwy medraf ei wneud, felly dyma'i throi hi am gefn y tŷ, a'r wawr bellach yn dechrau torri. Wedi cyrraedd adref, newid o'r dillad gwlyb a rhoi'r tegell ymlaen i gael paned o de, yr holl redeg, syrthio i'r dŵr a'r sioc o ddeffro'n sydyn i gyd yn dechrau dweud arnaf! Treulio'r awr nesaf yn edrych allan o ffenest y llofft ar y stryd a gwylio'r dŵr yn araf gael ei sugno i ffwrdd gan ddynion y Frigâd Dân. Tua saith o'r gloch, penderfynu mynd 'nol i gysgu (yn aflwyddiannus) a meddwl wrthyf i fy hun, "be ddigwyddodd i'r rhybudd llifogydd?!"
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |