91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Bedol
Iona Davies Noson i'w chofio
Erthygl gan Iona Davies o Glawddnewydd, yn sôn am y profiad o gael ei dewis yn un o'r pump ola' drwy Gymru ar gyfer Gwobrau gan y Gwasanaeth Iechyd
Wyddwn i ddim byd am y gystadleuaeth, hyd nes i dair swyddog ymweld â mi yn y gegin yn Uned Cancr Ysbyty Glan Clwyd. Y peth cynta' ddaeth i'm meddwl oedd be dwi wedi wneud rŵan?

"Stedda i lawr" ,medde un ohonyn nhw, a dyna wnes i, tra'n gwrando arnyn nhw'n datgelu mod i wedi cael fy newis yn un o'r pump ola' drwy Gymru ar gyfer yr NHS Heroes Award, gan y Gwasanaeth Iechyd.

Wyddwn i ddim, i mi gael fy enwebu. Wel sôn am sioc - buase'n llawer callach petaen nhw wedi gofyn i mi orwedd i lawr!

Teimlo'n annheilwng
Dwi 'rioed wedi teimlo mor annheilwng. Pwy oeddwn i? Doeddwn i ddim eisiau gwneud dim â'r peth. Cogyddes oeddwn i, ac am "hero", wel nefar!!

Ar ôl sgwrsio a meddwl, sylweddolais fod rhaid i mi gymryd rhan, er mwyn i mi gael cynrychioli tîm da o weithwyr sydd yn cydweithio yn yr Uned Gancr. Y broblem nesa' oedd y ffilmio, o 7.30 y bore tan amser cinio - ac yn Saesneg!! Druan o'r dyn camera dwn i ddim faint o cuts a gafwyd ond dysgais yn fuan nad oedd cyfieithu o'r Gymraeg i'r Saesneg yn swnio'n gall bob tro!!

Colli cwsg a phwysau
Doeddwn i ddim wedi meddwl fy mod yn eneth nerfus iawn, nes daeth bore Llun y rhaglen. Roeddwn i wedi colli cwsg (a finne yn cysgu fel twrch bob nos heb drafferth!), colli 8 pwys ac yn methu canolbwyntio.

Wel i ffwrdd â fi ar y bws o Ysbyty Glan Clwyd amser cinio gyda 18 o staff a dad a mam. Eirwyn Dylan ac Ian yn aros adre i ffonio.

Fe gawsom ni hwyl ar y bws, a chyrraedd y gwesty am bump o'r gloch - cawod sydyn a newid, ac yna ymlaen i'r stiwdio. Cyfarfod gweddill y cystadleuwyr ac yna mynd i'r ystafell goluro. Gofynnodd yr hogan goluro i mi beidio symud - wel dim fi oedd yn symud ond y nerfau trwy'r corff!!

Cyfarfod dynes gyfarwydd
Tra yno, daeth dynes gyfarwydd yr olwg i ddweud helo, bu bron i mi ofyn iddi a oedd hi'n aros am y coluro, ond diolch byth cefais fy nghyflwyno iddi mewn pryd - neb llai na Jane Hutt.

Dim ond chwarter awr i fynd a minnau heb gael practis run felly es i chwilio am Rhodri Williams, cyflwynydd y rhaglen deledu, a cherdded i mewn i'w ystafell ac yntau heb ei drowsus - ond mi roedd o'n gwisgo boxers! Dwn i ddim os mai fo neu fi gafodd y braw mwya, fy ymateb oedd "ydio'n iawn i mi ddod i mewn?!!"

Dwi'm yn cofio fawr ddim am y rhaglen, dim ond fy mod yn clywed curiad fy nghalon yn mynd fel drwm - hyd nes bod fy rhan i drosodd!! Do, fe fwynheais y profiad - mae o fel breuddwyd i mi, a tydw i ddim yn siŵr os ydw i wedi deffro'n iawn.

Diolch i bawb am eu cefnogaeth mewn unrhyw fodd.

Cafodd 55 o bobol eu henwebu yn y gystadleuaeth a dewiswyd Iona yn un o bump trwy Gymru i ymddangos ar y teledu. Mae'r Bedol yn llongyfarch Iona ac yn diolch am ei charedigrwydd i lawer o bobol.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý