91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Bedol
 Iwan Charles  Iwan Charles - "y thrill o'r Rhyl"!
Yn ystod y gwanwyn gwelwyd cyfres newydd ar S4C dan y teitl Emyn Roc a Rôl yn dilyn hynt a helynt aelodau grwp pop dychmygol, "Y Disgyblion".

Lleolwyd y gyfres yn yr wythdegau yn ystod oes aur grwpiau pop Cymraeg. Un o aelodau'r band yw Dyfrig Dodds, sef Iwan Charles un o feibion David a Nerys Evans, Pentre Motors, Llanrhaeadr.

Cafodd Y Bedol gyfle i sgwrsio ar y ffôn gydag Iwan ac yntau ar hyn o bryd yn Y Fenni yn cymryd rhan mewn sioe ar gyfer ysgolion cynradd gyda Theatr Gwent. Mae Iwan yn actio'r cymeriad "Aderyn heb adenydd" yn y sioe, ac mae rhywun yn tybio ei fod yn mwynhau y bwrlwm a'r sialens o fod o flaen cynulleidfa fyw.

Diddorol felly yw deall nad oedd yn fwriad gan Iwan i ddilyn gyrfa fel actor yn ystod ei gyfnod yn Ysgol Glan Clwyd.

"Doeddwn i ddim yn ei astudio fel pwnc, ond roeddwn i'n cymryd rhan mewn ambell i sioe ac ati".

Wedi dyddiau ysgol, aeth Iwan i'r Normal i ddilyn cwrs B.Add gyda'r bwriad wedyn o fynd i ddysgu oed cynradd. Dewisodd Ddrama fel pwnc i'w astudio fel rhan o'r cwrs, a chael y cyfle i gymryd rhan mewn dramâu, nosweithiau llawen yn ogystal â chystadlu gydag Aelwyd yr Urdd. "Yn y coleg ddaru mi gael blas ar berfformio ac actio."

Ar ddiwedd ei gwrs gradd yn 1997 ac yntau yn dechrau ymgeisio am swyddi dysgu, cafodd Iwan alwad ffôn a fu'n gyfrwng iddo newid cyfeiriad.

"Cefais alwad ffôn gan Gwmni'r Frân Wen yn cynnig swydd imi. Roeddynt wedi fy ngweld yn actio mewn cynyrchiadau tra yn y coleg, ac mae'r gweddill fel maen nhw'n dweud yn hanes!' Mae Cwmni'r Frân Wen yn arbenigo yn y maes theatr mewn addysg a chefais y cyfle i actio mewn cynyrchiadau'r cwmni am tua tair blynedd".

Er mai ar ddamwain y dechreuodd gyrfa Iwan, mae wedi llwyddo i gael gwaith yn eitha' rheolaidd. Ar ôl cyfnod Brân Wen, bu'n gweithio ar gynyrchiadau Theatr Arad Goch, yn cynnwys Dilemma!, Tafliad Carreg a Rala Rwdins, (gan chwarae rhan y Dewin Dwl!).

Os nad oes gwaith actio ar gael mae Iwan yn medru syrthio nôl ar ei waith fel athro, gan wneud gwaith llanw o dro i dro. Wedi torri ei gwys ar y llwyfan, cafodd Iwan y cyfle i actio yn y gyfres Emyn Roc a Rôl. Cyfres sydd eisioes wedi ennyn adolygiadau ffafriol. Mae Iwan yn disgrifio ei gymeriad (Dyfrig Dodds) "fel dipyn o punk rocker o Rhyl sy'n llawn direidi ond yn hogyn hoffus yn y bôn, gyda saith hoff ddywediad wrth ffansïo ei gyfle gyda'r merched 'y Thrill o'r Rhyl'!

Bu raid i Iwan gael cwrs sydyn am chwe wythnos ar sut i ganu'r gitâr ar gyfer ei rôl yn y gyfres. "Roedd hi'n anodd dysgu canu'r gitâr ond mater o raid oedd hi!" Nid yw bod mewn band yn beth diarth i Iwan. "Tra yn yr ysgol fi oedd y canwr yn y y band 'Pot Jam" ac wedyn yn y coleg roeddwn yn canu yn y grwp Pyls. Fi oedd yn sgwennu'r geiriau ac aelodau eraill y band yn cyfansoddi'r dôn. Hoffai Iwan ail afael yn ei ddiddordeb mewn canu mewn band yn y dyfodol.

A beth sydd ar y gweill i Iwan Charles yn y misoedd nesaf? "Bydd taith cynhyrchiad Theatr Gwent yn diweddu yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac yna byddwn yn dechrau ymarfer ar gyfer y gyfres o Emyn Roc a Rôl, (bydd yn cael ei darlledu o bosib yn ystod Gwanwyn 2005). Wedi hynny dwi'n gobeithio ail afael ar waith llwyfan gyda Theatr Arad Goch".

Pan mae cyfle'n dod i ymlacio, bydd Iwan wrth ei fodd yn chwarae'r drymiau, gwylio rygbi, cerdded mynyddoedd a mwynhau cymdeithasu gyda ffrindiau.

Pob lwc iti Iwan yn dy yrfa a gobeithiwn dy weld mewn cynhyrchiad yma yn y gogledd yn y dyfodol agos. - Gol.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý