91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Bedol
Adar Colofn byd natur
Gorffennaf 2008
Disgrifiad o ymweliad â gwarchodfa Mere Sands Wood a'i 'ymwelydd disglair'! Gan Iwan Roberts

Ar gyfartaledd byddaf yn mynychu tua 25 o gyfarfodydd yn flynyddol. Ar y cyfan, mae'r tywydd dros y blynyddoedd wedi bod yn ffafriol, gyda 'chydig iawn o deithiau wedi eu difetha'n llwyr gan dywydd diflas.

Byddwn weithiau yn mentro dros y ffin i ymweld â rhyw safle neu ardal ddiddorol, ac felly roedd y bwriad ar ddydd Sadwrn hiraf y flwyddyn eleni. Wedi clywed sôn am le o'r enw Risley Moss ger Warrington - gwlyptir yn bennaf gyda chyfoeth o blanhigion, adar a phrydfetach. Yn anffodus roedd yr arolygon tywydd yn sâl iawn am y diwrnod cyfan. Felly gwnaed penderfyniad i ail-ymweld â lle y buom y llynedd gan fod y man hwnnw yn cynnig gwell cysgod rhag yr elfennau. Gwarchodfa o'r enw Mere Sands Wood, ychydig mwy i'r gogledd oedd y lle hwn, cyfres o lynoedd wedi eu hamgylchynu gan goed a nifer o guddfannau oddi amgylch. Yn y gaeaf mae'r llynoedd yma yn gartref dros dro i bob math o hwyaid a rhydyddiau ond digon tawel ydy'r lle yng nghanol yr haf i'r math hynny o adar ac felly bach oedd y disgwyliadau wrth grwydro o guddfan i guddfan.

Yn sydyn, fodd bynnag, daeth fflach o liw o rywle a glanio tua 20 llath oddi wrthym, ar ddarn o bren a oedd yn amlwg wedi ei osod yno yn arbennig ar gyfer yr ymwelydd disglair - glas y dorlan!

Bu yno am rai munudau gan blymio ambell waith i'r dŵr i nol ambell i bysgodyn anffortunus.

Dyma yn bendant oedd uchafbwynt y daith, er ein bod wedi gweld ambell i beth arall diddorol yn ystod y dydd. Y teimlad wrth ddychwelyd i Gymru ar ddiwedd a prynhawn oedd i ni gael ein gwobrwyo am fentro allan ar ddiwrnod mor ddiflas. Cawn hyd i Risley Moss rhywbryd eto.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý