Wrth deithio heibio fferm organig y Rhug, mae modd gweld cerflun o feison sydd wedi ei osod ar fôn coeden yn ymyl corlan yr anifeiliaid hynod yma sydd bellach yn rhan bwysig o stoc stâd y Rhug.
Gwnaethpwyd y cerflun allan o ddarnau o fetal gan y cerflunydd Andy Hancock. Yn wreiddiol o Melbourne, Awstralia, mae'n teithio'r byd yn creu cerflunau o bob math ar gyfer cwsmeriaid boed unigolion neu gwmnioedd.
Mae Andy Hancock yn defnyddio deunyddiau naturiol fel pren, tywod a hyd yn oed rhew ar gyfer ei gerfluniau, yn ogystal â darnau diwydiannol fel metal.
Gosodwyd y cerflun ar stâd y Rhug ar gyfer Sioe Sir Feirionnydd a gynhaliwyd yno ddiwedd Awst. Cyflwynwyd praidd o feison ar dir y Rhug tua tair mlynedd yn ôl ac maent i'w gweld yn pori'n braf ar y caeau ger y fferm.
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |