Trefnwyd gwasanaeth cofio yng Nghadeirlan Llanelwy, ac amryw o ddigwyddiadau gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghwm Machno i goffau'r achlysur. Ar y 10fed ei hun cafwyd cyflwyniad ar fywyd yr Esgob gan blant Penmachno ac Ysgol Pen Barras yn y TÅ· Mawr, Wybrnant.Mae hi mor rhwydd anghofio nad oedd yn bosibl i bobl Cymru ddefnyddio a darllen y Beibl yn uniongyrchol am dros fil a hanner o flynyddoedd. Ganwyd William Morgan mewn cyfnod pan roedd gwasanaethau'r eglwys yn yr iaith Lladin, gyda'r offeiriad yn darllen yr offeren o hen lawysgrif.
Erasmus a ysgrifennodd mewn rhagair i'r Testament Newydd yn yr iaith Groeg yn 1516 y dylid cyfieithu'r ysgrythurau i bob iaith fel y gall pawb eu darllen.
Ugain mlynedd yn ddiweddarach mynnodd gorchymyn y dylid gosod Beibl Saesneg ym mhob eglwys yn Lloegr a Chymru, ac er mwyn diwallu'r angen hwn, comisiynwyd y 'Beibl Mawr', a oedd i'w ddarllen gan offeiriaid yn unig.
Yn ystod teyrnasiad y frenhines Elisabeth 1af pasiwyd deddf yn 1563 yn galw am gyfieithiad o'r Beibl i'r Gymraeg. Yn ôl y ddeddf roedd y pedwar Esgob Cymreig, ynghyd ag Esgob Henffordd i ddwyn allan cyfieithiad cyflawn o'r Beibl ym mhen tair blynedd, erbyn dydd Gŵyl Dewi 1566, neu eu bod i gael eu dirywio o £40 yr un.
Ond er y weithred seneddol, ni chafwyd cyfieithiad cyflawn o'r Beibl am dros ugain mlynedd wedi hynny; a'r pryd hwnnw, nid gan y pump Esgob, ond gan ficer gwledig o'r enw William Morgan.
Gwaetha'r modd, cymharol ychydig a wyddom am y gŵr a gyfieithodd y Beibl i'r Gymraeg am y tro cyntaf.
Ganwyd William Morgan fel yn hatgoffir yn TÅ· Mawr, Wybrnant, yn 1545, yn un o bump o blant, - yr ail fab i John ap Morgan a'i wraig Lowri.Yn ffodus, y mae'r ty yn sefyll hyd y dydd heddiw. Aeth yn adfail rywbryd yn y 18fed ganrif, ond fe' i prynwyd gyntaf gan Arglwydd Mostyn ac wedyn gan Arglwydd Penrhyn. Roedd hen draddodiad yn honni bod Wybrnant yn ardal lle'r oedd yr hen ffydd Gatholig wedi goroesi, a bod William Morgan wedi ei addysgu'n fachgen gan hen fynach a oedd wedi gorfod ymadael ag un o'r mynachlogydd lleol.
Cafodd ei addysgu yng Ngholeg Sant Ioan, Caergrawnt, coleg a oedd yn flaenllaw yn yr ymgyrch i droi Lloegr a Chymru yn wledydd Protestannaidd.Ordeiniwyd William Morgan yn Eglwys Gadeiriol Trelai yn 1568, ac yn 1578, daeth yn ficer Llanrhaeadr-ym-Mochnant, a chyda'r plwyf hwn yn bennaf cysylltir ei enw am mai yma y bu wrthi'n cyfieithu'r Beibl.
Ymgymerodd â'r gwaith o gyfieithu y Beibl yn hollol o honno ei hun, heb gymhelliad neb, heb feddwl am enw nac enwogrwydd. Ond fe gafodd ei anrhydeddu dros ganrifoedd. Penodwyd yn Esgob Llandaf yn 1595, ac yn 1601, trosglwyddwyd ef i esgobaeth Llanelwy, ac aeth yntau a'i briod Catherine i fyw i dŷ yr archddiacon, tŷ o'r enw Plas Gwyn ym mhentref Dyserth, gan fod plas yr Esgobion yn Llanelwy yn adfeilion.
Yno y bu farw, Medi 10, 1604 ac yntau'n 59 mlwydd oed. Tua £110 oedd gwerth ei eiddo, swm bach iawn, - ond fe adawodd gyfraniad amrhisadwy yn ei Feibl Cymraeg. Heb amheuaeth, y cyfieithiad pwysicaf a'r argraffiad pwysicaf oedd ac yw Beibl William Morgan.
Pedair canrif yn ddiweddarach, y mae gennym ninnau ddyled i ddatgan ein diolch i un o'n cymwynaswyr pennaf fel cenedl. Fe ddywed un, Beibl William Morgan oedd 'y rhodd fwyaf a gafodd y Cymry erioed'. Mae ei waith yn dal i fyw ac yn ddylanwadol o hyd. O'r braidd y gellir mesur ein dyled iddo fel cenedl.
Gwenallt a fynegodd amdano:
'Canmolwn ef am ei ddycnwch, ei
ddewrder a'i santeiddrwydd
Ac am ei gymorth i gadw'r genedl a'i
iaith lenyddol yn fyw,
Gan roddi arni yr urddas ac iddi'r
anrhydedd uchaf,
Wrth ei throi yn un o dafodieithoedd
Datguddiad Duw.'
Gwenallt
G. Floyd