91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Bedol
Kat Ka y tywysydd Taith Côr Merched
Gorffennaf 2002
Yn ystod wythnos y Sulgwyn, bu Côr Merched Edeyrnion ar daith yng Ngweriniaeth Czech.

Treuliodd y côr y rhan gyntaf o'r wythnos yn nhref Ceske Budejovice yn ne Bohemia, rhan wledig o'r weriniaeth.

Cawsom gyfle i ymweld â nifer o drefi hynafol hardd, Trebon, a Cesky Krumlov, a'u toeau coch, adeiladau lliwgar patrymog a'u strydoedd culion caregog.

Ymweld â bragdy Budweiser
Yn ogystal, cawsom gyfle i ymweld â bragdy Budweiser Budvar a gweld y gwaith a'r gwahanol brosesau bragu cwrw.

Roedden ni yn canu yn Neuadd y Marchogion mewn Chateau yn nhref Jindrichuv Hradrec ar y nos Lun, a chafodd y côr, unawd Elin, deuawd Elin a Morfudd a Thriawd Triglwm ymateb gwych gan y gynulleidfa werthfawrogol.

Yna, dydd Mawrth dyma droi ein golygon i gyfeiriad Prâg, neu Praha. Cawsom yma ddigon o gyfle i grwydro'r dref hardd a'i hadeiladau gwych. Aethom i ymweld â Sgwâr yr Hen Dref, y cloc enwog, y castell a'r Eglwys Gadeiriol.

Trip ar yr Afon Valta
Ar y nos Fercher, aethom am drip ar yr Afon Valta a hefyd gweld y Kirzik Fountain Show, cyfuniad cyffrous oedd hwn o ddwr, golau a cherddoriaeth ac roedd yn werth ei weld.

Brynhawn dydd Mercher cawsom y profiad arbennig o ganu yn eglwys Sant Nicholas ar sgwâr yr Hen Dref.

Ar y nos lau roeddem yn canu yn Eglwys Sant Giles yn Nymburk, ychydig y tu allan i Praha. Roedd y cyngerdd hwn yn rhan o ddathliad bywyd y cyfansoddwr Czech o'r 18ed ganrif, B M Cernohorsky.

Gwrando ar gôr lleol
Yn ystod rhan gynta'r cyngerdd cawsom glywed côr lleol yn canu offeren o waith Dvorak, a ninnau yn canu yn yr ail hanner.

Unwaith eto cafodd y côr a'r unigolion groeso a derbyniad ardderchog gan gynulleidfa oedd yn amlwg yn mwynhau pob math o gerddoriaeth.

Diwrnod yn Praha ar y dydd Gwener cyn troi am adre wedi cael taith fythgofiadwy.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý