91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Bedol
Rachael Vasmer Rachael Vasmer - merch eithriadol
Mai 2008
Hanes Rachael Vasmer sydd yn wreiddiol o Exeter ond yn awr yn byw ym Mhwllglas a wedi dysgu Cymraeg yn rhugl.

Cyn 1995, doedd Rachael ddim yn siarad Cymraeg. Ganed hi yn Exeter, a phan oedd hi'n ddwy oed, symudodd y teulu i Norwich.

Anaf i'w phen glin ar y cae hoci a newidiodd cwrs ei bywyd. Pymtheg oed oedd hi ar y pryd, a byth er hynny mae hi wedi cael trafferth cerdded.

Astudiodd Rachael y gyfraith ym mhrifysgol Bryste ac yng ngholeg y gyfraith yn Guildford. Wedi gorften ei hyfforddiant, dechreuodd arbenigo ym maes esgeulustra clinigol. Erbyn hyn, mae hi'n aelod o nifer o bwyllgorau cyfreithiol, gan gynnwys Panel Esgeulustra Clinigol Cymdeithas y Gyfraith.

Mae Rachael wedi bod ar flaen y gad yn mynnu iawndal i rai sydd wedi dioddef sgîl effeithiau adfydus yn dilyn triniaeth feddygol. Yn y flwyddyn dwy fil, llwyddodd i sicrhau iawndal o bron £5miliwn i gleient oedd wedi dioddef niwed i'r ymennydd ar enedigaeth. Roedd llawdriniaeth ar ei phen-glin hithau yn yr arfaeth, ond penderfynodd Rachael ohirio hynny er mwyn cynnal cleient arall mewn achos llys parthed damwain feddygol drasig.

Mae'r Bedol yn deall fod y llawdriniaeth bellach wedi ei gyflawni.

Ym 1995 y daeth Rachael a'i theulu ifanc i Bwllglas i fyw. Bellach mae hi'n siarad Cymraeg yn rhugl ac yn astudio am radd yn yr iaith. Mae hi'n weithgar yn y capel ac yn cydolygu'r cylchlythyr. Mae hi hefyd yn helpu cangen leol yr Urdd.

Ymdoddi i fywyd y fro y mae'r teulu cyfan. Mae gŵr Rachael, David, yn dysgu Cymraeg; a'r plant David a Theo yn llif Gymraeg ysgol Brynhyfryd.

Dyna gipolwg ar fywyd merch eithriadol o Bwllglas. A oes gennych chi hanes am rywun prysur a dawnus yn eich pentref chi? Bydd Y Bedol yn falch o glywed gennych.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý