Eleni fydd ein pedwerydd Nadolig yn Awstralia. Erbyn hyn rydym wedi dechrau dod i arfer â'r gwahaniaethau, ond mae'n cymryd amser i arfer â Nadolig yn yr haf. Od iawn oedd y 'Dolig cyntaf. (Rhaid cofio hefyd ein bod wedi treulio dau 'Ddolig yng Nghanada - a hithau'n bymtheg gradd o dan bwynt rhewi ac eira ym mhob man!)
I weld Siôn Corn mewn shorts
Rhyfedd iawn oedd mynd â'r plant i weld Siôn Corn yn Myers (rhyw groesiad rhwng Lewis's yn Lerpwl ac M&S) yn gwisgo shorts! Hefyd 'sgwennu cardiau tra'n eistedd tu allan a'r haul yn boeth ar ein cefnau.
Yna at ffrindiau am glamp o ginio 'Dolig, jyst fel adre', ond y tymheredd tu allan yn 34º Celsiws!
Mae'r arferion Nadolig yma yn debyg iawn i'r hyn a welwch chi ym Mhrydain - pawb yn addurno eu tai - goleuadau lliwgar, coeden Dolig, eira smalio ar y ffenestri......Mae sawl siop hefyd â'i addurniadau i fyny ganol Hydref! Mae'r plant yn canu carolau - tra'n gwisgo shorts a crys T, nid het a sgarff! I ddweud y gwir, y prif wahaniaeth yw ei bod hi'n gynnes ac yn sych, nid yn oer ac yn wlyb!
Gan amla' i deuluoedd yma sydd heb dras Brydeinig, cinio 'Dolig gyda physgod a bwyd y môr wedi'i goginio ar y barbie yw'r drefn. Ond i'r teuluoedd hynny hefo cefndir Prydeinig - twrci a'r trimings fydd hi, cyn disgyn i gysgu o flaen y bocs yng nghanol araith y Frenhines!
Nadolig ym mis Gorffennaf
Er hynny, rhaid peidio meddwl nad ydi poblogaeth Awstralia ddim yn mwynhau cinio 'Dolig go iawn. Erbyn hyn mae sawl teulu yn dathlu Christmas in July - sef canol ein gaeaf ni -amser llawer mwy addas i fwyta twrci a'r trimings!
Y drafodaeth fwyaf hefo'r plant - yn enwedig y ddwy flynedd gyntaf - oedd gweithio allan sut oedd Siôn Corn yn gallu teithio rownd y byd mewn un noson a gadael anrhegion i blant y byd i gyd!
Ar y pryd roedd Iwan, fy mrawd yn byw yn Vancouver - felly ni oedd stop cyntaf Siôn Corn ar ei daith a Catherine a John , y cefndryd yng Nghanada, oedd ymysg yr olaf. Oedd ein hogiau ni'n falch iawn o fod ar ddechrau'r daith rhag ofn iddo redeg allan o anrhegion!
Eleni beth fydd hanes ein teulu ni? Cawn fore tawel, jyst y pedwar ohonom, brecwast allan ar y deck ac agor ein hanrhegion. Unwaith mae batris y teganau newydd wedi gorffen, awn at ffrindiau am ginio hwyr.
Yna adref, y plant i'w gwlâu a dechrau ffonio adref i ddymuno cyfarchion yr Ŵyl i'r teulu - nhw yn dechrau ei diwrnod ac i ni, y diwrnod yn prysur ddod i ben.