91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Bedol
Morfudd Jones a Llions Mary Jones Dyddiadur taith i Briec
Mai 2002
Pasg Llawen - Joyeuses Paques - Pask Laouen - dyna oedd nod y criw o 39 adawodd Rhuthun brynhawn dydd lau, Mawrth 28, i dreulio'r Pasg yn Briec de I'Odet, ein gefeilldref yn Llydaw.

I'r 25 oedd yn ymweld â Briec am y tro cyntaf roedd yn dipyn o fenter gan eu bod am aros gyda theuluoedd yn hytrach na mewn gwestai.

A beth am yr iaith?
Sut oedden nhw am ymdopi gyda siarad Ffrangeg gyda'u lletywyr am bedair noson? Roedd peth pryder ar y bws ond buan y diflannodd pan ddechreuwyd dysgu caneuon gwerin Cymraeg ar gyfer y datganiad y disgwylid i ni ei roi unwaith neu ddwy yn ystod y penwythnos!

Gwell peidio â sôn gormod am y daith lawr i Plymouth - digon yw dweud bod traffig trwm a thagfeydd ar yr M5!

O'r diwedd fe gyrhaeddon ni'r gwesty ac aeth pawb i'w gwelyau yn flinedig iawn.

Codi'n gynnar yn y bore a hwylio am Roscoff am 8 o'r gloch. Brecwast ar y llong a thaith ddymunol trosodd gyda'r môr yn eithaf llonydd. Cinio ar y llong hefyd cyn glanio yn Roscoff am 3 o'r gloch y prynhawn, amser Ffrainc. Pawb wedi cofio troi eu horiawr ymlaen awr!

Cyrraedd Briec tua 4.30 a'r gwesteion ac aelodau o'r Pwyllgor Gefeillio yn ein haros yn Neuadd y Dref. Gair o groeso gan y Maer a Chadeirydd y Pwyllgor Gefeillio ac yna diod, cacen a sgwrs.

Rhai yn cyfarch hen ffrindiau, eraill yn cyfarfod ffrindiau newydd am y tro cyntaf. Buan iawn y chwalwyd y pryderon oedd yn bodoli wrth adael Rhuthun.

Yna adref gyda'n gwestywyr i Briec, Edern, Landudal a Landrevarzec am baned a pharatoi i ddod yn ôl i Briec erbyn 8 o'r gloch ar gyfer y noson grempog. Mae hwn bellach yn rhan annatod o bob ymweliad â Briec. Crempog a seidr neu win - crempog a seidr a gwin hyd yn oed!

Dydd Sadwrn.
Gadawyd fore Sadwrn yn rhydd i'w dreulio gyda'n lletywyr ac aeth rhai ohonom i dref hardd Kemper (Quimper) sydd ond 10 milltir o Briec. Ymweld â'r eglwys gadeiriol wych sydd newydd gael ei glanhau y tu mewn.

Gweld cerflun o ddawnswyr Llydewig yn y siop lestri gerllaw, yr un fath yn union â'r un a roddwyd i dref Rhuthun gan dref Briec yn ôl ym 1993 pan arwyddwyd y siarter gefeillio ac sydd i'w weld yn Llyfrgell Rhuthun. A synnu ar ei bris!

Yna mwynhau paned o goffi ar lan yr afon Odet a chael cyfle i wario'r Euro am y tro cyntaf! Dygymod â'r Euro? Pas de probleme - dim problem! Dyna un o ddywediadau'r gefeillio gyda llaw! Wedyn adref am bryd o fwyd gwych gyda'n lletywyr.

Nos Sadwrn pryd o fwyd bendigedig arall ym mwyty Croas-Stang yn Llangollen gyda'n lletywyr ac aelodau o'r pwyllgor. Noson wych a chyfle i ganu (mae disgwyl i ni ganu Y Gwcw bob tro bellach)!

Dydd Sul
Roedd bore Sul hefyd yn rhydd gyda'n lletywyr ac am dri o'r gloch y prynhawn, ar ôl cinio mawr arall, cafwyd Gŵyl Lydewig-Gymreig yn y Ganolfan Ddiwylliant newydd yn Briec.

Bu rhai o ferched Rhuthun yn brysur yn paratoi bara brith a chymysgedd o gacennau cri cyn mynd i Briec a bu pedair ohonyn nhw yn coginio yn ystod y prynhawn.

Trwy garedigrwydd cwmni Patchwork o Ruthun a Llaeth-y-llan, Llannefydd roedd paté a iogwrt Cymreig ar gael hefyd yn ogystal â chaws a the Cymreig. Roedd yn brynhawn difyr gyda dawnsio gwerin a chanu Cymreig (Y Gwcw eto!) a Llydewig. Nid oedd tâl mynediad ac felly roedd tua 200-250 wedi dod yno. Roedden nhw'n dotio at y bwyd o Gymru, yn enwedig y bara brith.

Ar ddiwedd y prynhawn prynwyd yr iogwrt a'r bara brith oedd dros ben ac yn wir cafodd rhai o'r parti iogwrt Llaeth-y-Llan a bara brith i frecwast fore Llun! Wedi i'r cyhoedd gilio am saith o'r gloch cafwyd parti preifat i'r Cymry a'r lletywyr.

Dydd Llun
Codi'n fore dydd Llun er mwyn gadael Briec am wyth o'r gloch ar y bws i Benodet i ddal cwch i fynd â ni i fyny'r Afon Odet i gyrion Kemper. Taith bleserus dros ben gan weld nifer helaeth o gartrefi moethus ar lannau'r afon ac adar dŵr yn hedfan uwch ei phen. Wedi glanio roedd y bws yn ein disgwyl i'n tywys i feithrinfa flodau lle roedd aceri o diwlipau.

Roedd y planhigion i'w gweld yma rhyw dair wythnos i fis yn gynt nac yn Rhuthun ac yn werth eu gweld.

Ar ôl cinio ardderchog mewn bwyty mewn lle o'r enw Saint Jean Trolimon ymlaen i ymweld â Distyllty Menhir yn Plomelin lle y cynhyrchir seidr a lambig, math o Galvados neu frandi afalau.

Mae Plomelin wedi gefeillio gyda Chrymych yn Sir Benfro ac mae perchnogion y distyllty, Guy ac Anne-Marie le Lay, wedi bod yn Rhuthun.

Ar ôl taith o amgylch y distyllty cafwyd y cyfle i brofi'r cynnyrch - ac i'w brynu. Braf oedd clywed Guy yn cyfrif yn Gymraeg wrth rifo pris y poteli. Ar ôl dychwelyd i Briec cafwyd noson dawel yng nghwmni ein lletywyr - a phryd anferth o fwyd eto!

Dydd Mawrth
Fore Mawrth bu cyfarfod rhwng y ddau bwyllgor gefeillio yn Edern i drafod yr ymweliad, ymweliad pobl Briec a Rhuthun eleni a'n hymweliad ni â Briec y flwyddyn nesaf i ddathlu 10 mlynedd y gefeillio - i ble'r aeth yr amser?!

Cinio ffarwél wedyn mewn bwyty yn Edern. Wrth ddiolch i'n lletywyr am y croeso anhygoel dywedodd Gruff Hughes, Cadeirydd Pwyllgor Gefeillio Rhuthun, bod nifer o'r parti wedi cyrraedd Briec i gyfarfod â dieithriaid ond eu bod bellach yn gadael ffrindiau ar ôl.

Wedyn kenavo i'n cyfeillion a throi am adref, taith gymharol fer i Roscoff a chroesiad llyfn arall yn ôl i Plymouth ac yna gyrru adref drwy'r nos.

Oedd y trip yn werth chweil? Oedd yn bendant. Roedd sylwadau pawb yn ddieithriad, yr hen stejars sydd wedi bod i Briec nifer o weithiau, a'r sawl oedd wedi bod am y tro cyntaf - ond nid y tro olaf gobeithio oedd eu dymuniad.

Ydi mae gefeillio yn hwyl ac yn agoriad llygad. Gweld a phrofi bywyd mewn gwlad wahanol gan fyw mewn tai gwahanol a mwynhau ffordd wahanol o fyw - heb sôn am y bwyd. Ym mis Medi ein tro ni fydd croesawu cyfeillion o Briec i Ruthun unwaith eto ac anogaf bawb fu ar y trip, ac eraill sydd yn dymuno dod yn rhan o'r gefeillio, i agor eu drysau ac i'n helpu i sicrhau bod ein croeso ni lawn mor gynnes â hael a chroeso pobl Briec.

Erthygl gan Vernon Hughes.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý