Roedd Eisteddfod Genedlaethol 2004 yn un gyffrous iawn i fi. Yn un peth, ro'n i, fel llawer o bobl leol eraill, wedi bod yn gweithio'n galed ers bron i ddwy flynedd, yn codi arian a cheisio hybu'r Brifwyl yn lleol. Ro'n i mor falch pan gyrhaeddais i'r Maes bendigedig o'r diwedd a gweld y bobl yn llifo i mewn a mwynhau'u hunain yn y tywydd braf. Ond do'n i ddim wedi bwriadu cystadlu eleni - dim tan i mi gael fy mherswadio i roi cynnig ar gystadleuaeth "Dysgwr y Flwyddyn".
Mae ITV Wales yn gwneud rhaglen am y gystadleuaeth a ro'n i wedi gwylio'r rhaglen bob blwyddyn ers i mi ddechrau dysgu Cymraeg. Weithiau ro'n i wedi breuddwydio am gymryd rhan yn y gystadleuaeth - ac yn ennill! Ond do'n i ddim wedi meddwl o ddifrif am y peth.
Ond pan ddaeth yr Eisteddfod i Gasnewydd sylweddolais ei bod hi'n bwysig i bobl leol gystadlu. Efallai nad oes llawer o bobl sy'n siarad Cymraeg fel iaith gyntaf yn yr ardal yma, ond mae miloedd yn dysgu. Ro'n ni eisiau i bobl weld bod y Gymraeg yn bwysig i ni yma. Felly pan gynigiodd rhywun fy enwebu ar gyfer y gystadleuaeth, penderfynais fynd amdani. Ro'n i'n teimlo'n swil ac yn nerfus, ond yn benderfynol o fwynhau'r profiad a chael hwyl.
Yn y rownd gyntaf roedd rhaid i ni fynd i Dŷ Tredegar am ddiwrnod cyfan o gyfweliadau a gweithgareddau. Daeth dysgwyr eraill o bob rhan o Gymru ac roedd hi'n hyfryd cwrdd a siarad â nhw. Roedd pawb yn nerfus, ond roedd y tri beirniad yn gyfeillgar ac yn gefnogol. Ar ôl mynd adre roedd rhaid aros i glywed a o'n i wedi cyrraedd y pedwar olaf. Faswn i ddim wedi synnu o gwbl taswn i ddim wedi cael fy newis, gan fod safon Cymraeg y cystadleuwyr eraill mor dda. Ond ro'n i wrth fy modd pan glywais fy mod i wedi cyrraedd y ffeinal.
Roedd pethau'n gyffrous iawn wedyn. Daeth criw teledu i fy ffilmio i ar gyfer y rhaglen. Cymerodd hyn ddiwrnod cyfan, gan fod y Cynhyrchydd yn awyddus i gael golygfeydd 'action' diddorol, yn ogystal â'r cyfweliad gyda Nia Parry. I fi roedd hyn yn golygu cael fy ffilmio'n canu'r ffliwt yng nghanol y dre a marchogaeth. (Doedd y ceffyl druan ddim yn hapus iawn am hyn. Roedd ofn' y microffon mawr, blewog arno fe, ond gadawodd i mi'i farchogaeth heibio i'r peth dychrynllyd sawl gwaith, tan i'r criw ffilmio fod yn hapus, chwarae teg iddo!)
Ar ôl hyn roedd rhaid paratoi am y rownd derfynol ar Faes yr Eisteddfod. Ro'n i mewn cysylltiad â'r tri arall oedd yn y ffeinal - Jane, Alison a Nick, ac roedd hyn yn help ac yn gysur wrth i ddiwrnod y gystadleuaeth nesâu. Roedd hi'n boeth iawn ar ddiwrnod y ffeinal a ro'n ni i gyd yn nerfus ac yn chwyslyd iawn! Roedd rhaid i ni siarad ar y llwyfan ym Mhabell y Dysgwyr.
Yna cawson ni ginio ym Mhabell ITV a gweld y ffilm ro'n nhw wedi'i gwneud amdanon ni. Wedyn yn ôl i Babell y Dysgwyr i siarad am ein 'drysorau' (ro'n ni wedi dod â phethau oedd yn bwysig i ni), ac yn olaf, cyfweliadau gyda'r beirniad. Yng nghanol hyn i gyd roedd hefyd yn lansiad fy llyfr i ddysgwyr, 'Cysgod yn y Coed', oedd newydd gael ei gyhoeddi gan Wasg Gomer. Felly roedd hi'n ddiwrnod llawn cyffro! Roedd hi'n braf wedyn cael mynd i fy mhabell ar y Maes Carafannau i orffwys, cyn newid a mynd i'r Noson Wobrwyo.
Roedd hi'n noson hyfryd pan gyrhaeddon ni'r gwesty ac roedd pawb yn ymlacio, yn yfed gwin ac yn mwynhau pawb ond Alison, Jane, Nick a fi! Ond o'r diwedd daeth yr amser i'r beirniaid gyhoeddi pwy oedd wedi cael ei ddewis yn Ddysgwr y Flwyddyn 2004. Roedd hi'n sioc pan glywais fy enw i! Ces i dlws hyfryd a £300 yn wobr a chafodd y pedwar ohonon ni sawl gwobr arall, gan gynnwys aelodaeth o CYD a Merched y Wawr. Dw i'n teimlo bod hi'n fraint ac yn anrhydedd mawr i mi ennill y gystadleuaeth hon. Y diwrnod ar ôl y gystadleuaeth clywais i gan yr Archdderwydd bydda i'n cael gwobr arall yn Eisteddfod 2005 - sef fy urddo i'r Orsedd (y Wisg Werdd). Alla i ddim meddwl am unrhyw anrhydedd fwy na hyn, yn enwedig i rywun fel fi, sy wedi dod o Loegr i wneud fy nghartref yng Nghymru.
Dw i ond yn gobeithio bydda i'n gallu cyfiawnhau ennill teitl 'Dysgwr y Flwyddyn' a'r anrhydeddau sy'n dod yn ei sgil trwy ysbrydoli a chefnogi dysgwyr eraill. Dw i'n ddiolchgar iawn i fy nhiwtoriaid gwych ac i fy nghyd-ddysgwyr dros y blynyddoedd, ac i'r gymuned Gymraeg leol, sy wedi bod mor groesawgar ac mor gefnogol i mi. Dw i'n fodlon iawn dod i siarad â grwpiau, cymdeithasau a dosbarthiadau - cewch gysylltu â fi ar 01873 856624.
Lois Arnold
(Llongyfarchiadau mawr i Lois. Hoffwn ddiolch iddi hefyd am ei chefnogaeth. Robin Davies)