Y dyddiad cau yw 18 Mai, a gellir cael mwy o fanylion ar wefan yr Eisteddfod, sef www.eisteddfodyfenni.co.uk. Mae croeso i gystadleuwyr llenyddol gynnig gwaith yn Gymraeg neu yn Saesneg, gyda thair cystadleuaeth yr un yn y ddwy iaith. Yn Gymraeg "Ystyr Cymreictod heddiw" yw pwnc y rhyddiaith, "Byw yng Nghymru" yw testun y gerdd i ddysgwyr, a "Hen glebren fusnesllyd o'r Fenni" yw llinell gyntaf y limrig.
Yn wahanol i'r arfer, ychwanegwyd cystadleuaeth newydd i berfformwyr llwyfan: deuawd neu driawd offerynnol neu leisiol, i gyd-fynd â'r cystadlaethau mwy traddodiadol megis yr unawdau lleisiol ac offerynnol, yn cynnwys cân o sioe gerdd, a'r her adroddiad.
"Rydym yn ymwybodol iawn bod trigolion Y Fenni yn mwynhau'r Eisteddfod oherwydd safon uchel y perfformwyr; bron mai fel cyngerdd y gwelant y noson, yn hytrach na chystadleuaeth," medd Ceri Thomas, Cadeirydd Eisteddfod Y Fenni. "Oherwydd hynny mae'n bwysig iawn ein bod ni'n darparu rhaglen ddifyr ac amrywiol, a bydd y gystadleuaeth newydd hon yn siŵr o ychwanegu at fwynhad y gynulleidfa."
Yn ystod y dydd, cynhelir eisteddfod y plant, yn Ysgol y Brenin Harri'r VIII, gyda'r plant lleiaf yn cystadlu yn y bore a'r rhai hÅ·n yn y prynhawn. Gwahoddir pedwar cystadleuydd gorau y prynhawn i ddiddanu cynulleidfa'r Theatr gyda'r nos, a bu'r eitem honno hefyd yn ychwanegiad poblogaidd at y rhaglen, gyda'r bobl ifainc talentog y llynedd yn cynnwys pianydd, actor, cantores a thrombonydd.
Os na allwch gysylltu â'r we, ffoniwch Ceri Thomas am fwy o wybodaeth am gystadlu yn Eisteddfod Y Fenni, ac am ffurflenni cais, ar 01873 850379.
Ceri Thomas
|