Hoffwn ddiolch yn wresog i'r bobl garedig a roddodd gyfraniadau tuag at y papur yn dilyn y rhifyn diwethaf. Roedd eich cefnogaeth yn galondid mawr i ni ac mae wedi gwneud gwahaniaeth enfawr. Bydd adroddiad yn y rhifyn nesaf am Fore Coffi a drefnwyd ar gyfer y 1 o Ebrill gyda'r awdur Owen Martell yn siaradwr gwadd; menter arall gennym i sicrhau bod y papur yn hunan-gynaliadwy cyn belled â phosibl.
Rhywun arall sydd wedi gwneud cyfraniad mawr i'r iaith Gymraeg yng Ngwent yw Delyth Fowler a weithiodd am 18 mlynedd fel ysgrifenyddes, i ddechrau i Ann Jones ac wedyn Geraint Wilson¬ Price, yn adran Cymraeg i Oedolion Coleg yr Hill, Y Fenni.
Ymddeolodd Delyth ym mis Chwefror ac yn ei gyrfa yn hyrwyddo'r iaith Gymraeg gwelodd newidiadau mawr. Bu'n dyst nid yn unig i gynnydd mawr yn y nifer sydd yn dysgu Cymraeg ond hefyd cydnabyddiaeth ehangach bod gan yr iaith ei phriod le ym mywyd Cymru. Roedd ffrind Delyth yn aros gyda hi yn ddiweddar ac wrth iddynt gerdded o gwmpas y dref fe sylwodd gymaint o bobl oedd yn ei chyfarch trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae Delyth yn gwbl sicr y rhoddodd Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd 1988 hwb mawr i'r iaith Gymraeg yn yr ardal; tystiolaeth fod gŵyl symudol yn gallu cael effaith gadarnhaol a hir dymor.
Mae'r holl newidiadau yn cael eu hadlewyrchu yn nifer y cyrsiau a gynigir gan yr adran heddiw gan gynnwys er enghraifft 15 o Ysgolion Undydd, Cyrsiau Preswyl, Penwythnosau Adolygu a chwrs bob blwyddyn yn Llanbedr Pont Steffan. Mae pobl sy'n byw dros y ffin yn mynychu cyrsiau ac eraill o Lundain sydd am wneud cyrsiau preswyl yng Nghymru yn teithio draw, yn ogystal â rhieni (i blant sydd bellach yn dysgu Cymraeg yn yr ysgol) sydd eisiau bod o gymorth i'w plant gyda'u hastudiaethau.
Mae yna gyrsiau yn ystod y dydd hefyd sy'n adlewyrchu gofynion ffyrdd o fyw heddiw, a dros 70 o diwtoriaid. Mae'n rhaid i'r tiwtoriaid ddangos eu bod yn addas - un peth yw gallu siarad Cymraeg yn rhugl, ond rhaid eu bod yn gallu trosglwyddo'r iaith gyda hyder ac eglurder hefyd. Yn wir, mae yna brinder tiwtoriaid yng Ngwent ac mae Geraint yn croesawu ymholiadau gan unrhyw un sydd â diddordeb mewn bod yn diwtor.
Yn sgîl Deddf yr Iaith Gymraeg, gwelwyd cynnydd aruthrol yn nifer y cyrsiau sydd ar gael dan gynllun "Cymraeg yn y Gweithle" dan arweiniad Sian Griffiths, y swyddog sydd â chyfrifoldeb. Mae strwythur yr arholiadau wedi ehangu hefyd, a heddiw cynigir 4 lefel gan CBAC.
Mae Delyth yn enedigol o Rydaman ac ar ôl treulio peth amser dros y ffin yn byw yn Salisbury a gweithio fel gweithiwr cymdeithasol yn Stoke on Trent fe ddychwelodd i Gymru i ymgartrefu yn Y Fenni. Mae ei dau fab bellach yn bobl mewn oed, a'i huchelgais yn awr yw defnyddio'i rhyddid newydd i weld mwy o'r wlad. Os oes gan unrhyw un "Campervan" dibynadwy ar werth efallai y bydd ganddi ddiddordeb!
Mae Delyth wedi chwarae rhan bwysig mewn tîm a fu'n ganolog i ddatblygiadau cyffrous iawn i'r iaith Gymraeg yng Ngwent. Mae ei chydweithwyr, ffrindiau, a phawb yn y gymuned Gymreig a Chymraeg yng Ngwent yn diolch iddi am ei gwaith caled ac yn estyn eu dymuniadau gorau am ymddeoliad hir a hapus.
|