Er i Reuben gael ei eni a'i fagu yng Nghymoedd de Cymru, doedd yna ddim llawer o gyfleoedd i ddysgu na siarad Cymraeg yn 1920au a'r 1930au.
"Ond, yn 2003, pan ddaeth Clwb Golff Cymry Llundain ataf a gofyn i mi fod yn Llywydd, mi awgrymon nhw hefyd y dylwn i wneud rhywbeth ynglŷn â fy niffyg Cymraeg" meddai.
Yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Eryri a'r Cyffiniau eleni, fe fu Reuben yn derbyn ei dystysgrif ar gyrraedd gris gyntaf dysgu'r iaith - yr arholiad Mynediad. Roedd o'n falch bod ei wraig ers 63 mlynedd Olwen ar y llwyfan hefyd i rannu ei lwyddiant gydag ef.
Ond roedd Olwen wedi dod â thystysgrif arall gyda hi - yr un sy'n tystio iddi ennill ar yr unawd soprano yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon yn 1935.
|