Mewn oes lle mae cymaint o wahanol fathau o adloniant ar gael (y teledu yn anad dim) roedd yn galonogol gweld cymaint o bobl ifanc (llawer o'u rhieni yno, yn eu cefnogi) yn hapus i fwynhau hwyl yr Eisteddfod ar ddydd Sadwrn heulog a phoeth. Roedd y safon yn eithriadol o dda ai roedd yna achos lawenydd sylweddoli bod yr Eisteddfod yn cynnig llwyfan i'r genhedlaeth nesaf ac yn help iddi ddysgu sgiliau gydol oes mewn cerddoriaeth, adrodd a dawns. Yn yr un modd lwyddodd cystadlaethau nos Sadwrn i ddenu cystadleuwyr o ardal eang (un o Northamptonshire) a chafwyd cyngerdd gwych. Enillydd yr unawd offerynnol dan 25 oed (a noddwyd gan Gymdeithas Gwenynen Gwent) oedd y telynor Benjamin Creighton Griffiths, 9 oed, a edrychai mor fach wrth ochr ei delyn gyda'i hestyniadau arbennig i'r pedalau! Ni allai neb yn Theatr y Fwrdeistref beidio â sylweddoli eu bod yn gwrando ar dalent ryfeddol. Mae'n cymryd ymroddiad a threfniadaeth drylwyr gan lawer o bobl i gynnal digwyddiad mor llwyddiannus. Llongyfarchiadau mawr. Hoffwn ddiolch yn fawr i bawb a gefnogodd noson Menna Elfyn a Fflur Dafydd, a diolch i'ch haelioni, mae'n dda gen i ddweud ein bod wedi casglu cyfraniad gwerth chweil tuag at gronfa Ty Hafan. Roedd e'n achlysur i'w gofio fel y mae erthygl Tony Edwards yn ei bwysleisio - nid pob dydd y cewch chi'r cyfle i gyfarfod rhywun sydd â dylanwad mawr ar fywyd diwylliannol Cymru a chael eich diddanu gan ferch mor dalentog. Hoffwn ddiolch hefyd i Rhys Wynne am ei wasanaeth cyfieithu ar y pryd. Er bod ganddo annwyd trwm fe ddaeth ar fyr rybudd a sicrhau noson ddealladwy i bawb gan gynnwys sawl siaradwr Saesneg yn unig. Robin Davies
|