Rhifyn arbennig a Newyddion Gwent yw hwn (diolch i haelioni Arian i Bawb) i groesawu dyfodiad yr Eisteddfod Genedlaethol i Gasnewydd fis Awst, i ddathlu'r gwaith caled a gyflawnwyd ac a wneir a hyd gan bobl ymroddedig yng Ngwent, ac i gael cipolwg ar beth o hanes diddorol yr ardal. Eleni gwelwyd llu o ddigwyddiadau codi arian llwyddiannus, sydd yn eu tro wedi atgyfnerthu cysylltiadau personol ac wedi helpu pobl i ddod i adnabod ei gilydd yn well, sy'n argoeli'n dda ar gyfer y dyfadol. Llongyfarchiadau o bawb sydd wedi cyfrannu at y digwyddiadau hyn, ac i bawb sydd wedi'u mynychu. Diolch hefyd i waith caled a chefnogaeth staff Swyddfa'r Eisteddfod, Heol y Bont, Casnewydd, mae'r cydweithrediad wedi bod yn un pleserus. Mae Newyddion Gwent yn ceisio cyhoeddi'r llwyddiannau a gyflawnir yng Ngwent ac mae'n bwysig bod y papur yn cyrraedd pawb y gall fod o ddiddordeb iddynt. Os ydych yn adnabod unrhyw un y mae'r papur yn debygol o apelio ata, rhowch wybod, os gwelwch yn dda. Gallwn ychwanegu ei h/enw at ein cronfa ddata (sy'n tyfu o hyd) i gael copïau am ddim yn rheolaidd. At y diben hwn rydym yn falch o gyhoeddi, mewn cydweithrediad â Glenda Brown, Swyddog Gweithredu'r Gymraeg Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen y bydd Newyddion Gwent o hyn ymlaen ar gael ar wefan Webster Torfaen. Mae Webster yn fenter ryngrwyd yn Nhorfaen sy'n gallu helpu pob math a grwpiau cymunedol yn Nhorfaen i ddysgu am ei gilydd ac i gadw mewn cysylltiad. Felly, ewch i'r safle . Byddwn yn gwella ac yn ehangu porth Newyddion Gwent fel mae amser yn caniatáu. Dymuniadau gorau i bawb am wythnos lwyddiannus heb law. Edrychwn ymlaen i'ch croesawu i Eisteddfod Sir Fynwy i- Ai 2010 ynteu 2012 fydd hynny? Croeso twymgalon i bob Eisteddfodwr gan Bobl Gwent
|