Doedd dim llawer cofiadwy wedi digwydd yn Nhalywaun ers talwm, er bad clwb Rygbi, y Scowts, y WI a sawl mudiad arall yn dal i fod yn boblogaidd. Roedd angen rhywbeth i ddod a'r gwahanol grwpiau at eu gilydd. Ar ôl misoedd o boeni, cyrhaeddodd y diwrnod mawr. Wedi Nadolig 2002, mi nes i lenwi ffurflenni gais i gael grantiau Arian i Bawb a Chyngor Celfyddydau Cymru. Roedd angen llawer o arian i dalu rhent y Babell Fawr a nifer a neuaddau'r pentref. Un o'n cynlluniau oedd sefydlu gweithdai i'r plant a roedd angen talu'r crefftwyr a oedd yn cytuno i ddysgu ynddynt. Roedd pawb yn frwdfrydig iawn. Yr eglwysi, y clybiau, y bobl hŷn a pherchnogion siopau a thafarnau - ddangoson nhw eu diddordeb a nes i lenwi ffurflen gais y gystadleuaeth Bwgan Brain. Mewn gwirionedd allwn ni ddim fod wedi rhagweld penwythnos mor lwyddiannus. Roedd y tywydd mor braf, daeth y bobl o bob man. Roedd y cyngerdd mor fywiog a'r bwganod brain mor lliwgar. Dwi erioed wedi gweld cymaint a bobl ar y strydoedd, yn hen ac ifanc a phawb mor hapus a diolchgar am gael hwyl. Ym mhob neuadd a chapel, cododd grwpiau lleol lawer a arian. Fe ganodd y band Jazz yma ac acw a pherfformiodd y Dawnswyr Gwerin ar gornel y stryd. Do, gawsom ni hwyl aruthrol yn Nhalywaun yn ystod y penwythnos ar ei hyd. Yr unig broblem - mae pawb eisiau i fi drefnu Gŵyl Talywaun y flwyddyn nesaf. Dim peryg! Rydw i am ymfudo am sbel!! Marguerite Shaw
|